Cwmni hyfforddiant yn llunio rhestr fer o 24 sydd wedi cyrraedd rownd derfynol gwobrau newydd

Mae pedwar ar hugain o unigolion sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaeth, Cyflogaeth a Sgiliau 2017 newydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi’u cynnwys ar y rhestr fer.

Caiff y gwobrau eu cyflwyno mewn seremoni ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd ar 8 Mawrth i gyd-ddigwydd ag Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, ac maent wedi’u dylunio i ddathlu popeth sy’n wych am hyfforddiant, prentisiaethau a sgiliau yng Nghymru.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian, un o’r darparwyr hyfforddiant blaenllaw yng Nghymru, wedi lansio’r gwobrau i wobrwyo unigolion a chyflogwyr sydd wedi rhagori ym maes dysgu galwedigaethol a rhaglenni hyfforddiant y mae’r cwmni yn eu darparu. Mae ganddynt swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli.

Dyma’r unigolyn sydd wedi cyrraedd y rhestr fer:

Unigolyn Rhagorol y Flwyddyn Twf Swyddi Cymru: Joseph Lewis, technegydd gwerthiant yn Siop Dacl Lionel, Bwcle; Thomas Owen, gweithredwr cynhyrchu ym Mainetti, Wrecsam ac Amy Davies, rheolwr swyddfa yn Pembrokeshire Falconry, Hwlffordd.

Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Sam Hughes, cigydd yn Siop Gigydd Brian Crane, Caerffili; Ioan Lewis, cogydd cynorthwyol yn SA Brains, Rose and Crown, Porthcawl; Codi Wiltshire, gweinyddwr yn Jewsons, Llanfair ym Muallt; Rhiannon Wilson, cynorthwy-ydd cyfrifon yn Links Energy Supplies, y Drenewydd ac Adam Seel, llwythwr yng Nghyngor Sir Ddinbych.

Prentis y Flwyddyn: Ashley Frampton, cogydd de parti a Phoebe Swaddling, gwesteiwraig, y ddau yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd; Amanda Helsby, swyddog gweinyddol ar gyfer Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych a Danny Foulkes, rheolwr prosiect dan hyfforddiant, yn Evabuild, y Drenewydd.

Uwch Brentis y Flwyddyn: Peter Rushforth, cigydd yn Siop Fferm Swans, yr Wyddgrug a Julie Mundy, arweinydd tîm yn Seren Cyf, Blaenau Ffestiniog.

Micro Gyflogwr y Flwyddyn: Siop Fferm Swans, yr Wyddgrug a Siop Gigydd Brian Crane, Caerffili.

Cyflogwr Bach y Flwyddyn: Gwynedd Skip and Plant Hire, Caernarfon ac EvaBuild Cyf, y Drenewydd.

Cyflogwr Canolig y Flwyddyn: Celtica Foods Cyf, Cross Hands, Llanelli a TLC, Llanidloes. Cyflogwr Mawr: CDT Sidoli (y Trallwng Cyf), y Trallwng; Cyrchfan y Celtic Manor, Casnewydd a Mainetti, Wrecsam.

“Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gweithio â chyflogwyr a dysgwyr gwych ledled Cymru wrth i ni ddarparu amrywiaeth o raglenni hyfforddiant, prentisiaethau, cyflogaeth a sgiliau ar ran Llywodraeth Cymru,” meddai rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian Arwyn Watkins.

“Mae’r gwobrau hyn yn dathlu cyflawniadau’r rheiny sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau yn ystod eu hymgysylltiad ac ymrwymiad â rhaglenni hyfforddiant a sgiliau ac sydd wedi dangos dull unigryw o ymdrin â hyfforddiant a datblygiad ac wedi dangos menter, arloesedd a chreadigrwydd.

“Rydym yn falch iawn â safon y ceisiadau rydym wedi’u derbyn ledled Cymru ac edrychwn ymlaen at arddangos storïau llwyddiant ein dysgwyr a chyflogwyr.”

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Rhaglen Brentisiaeth gyda chymorth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555 893, neu Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.