Tyfwch eich Busnes gyda Thwf Swyddi Cymru

Gall tyfu eich busnes fod yn heriol ac yn werth chweil ar yr un pryd. Weithiau mae angen help ychwanegol arnoch i gyflawni’r twf hwnnw.

Dyna le y gall Hyfforddiant Cambrian a Thwf Swyddi Cymru eich helpu chi a’ch busnes. Yn fach neu’n fawr, mae rhaglen Twf Swyddi Cymru yn helpu busnesau mewn rhannau o Gymru i recriwtio pobl ifanc i swyddi allweddol, eu helpu i ehangu, gan greu cyflogaeth ar yr un pryd.

Mae ar gael i fusnesau mewn rhannau o Ogledd, Canolbarth, De a Gorllewin Cymru a gall Hyfforddiant Cambrian, fel asiant rheoli ar gyfer y rhaglen, helpu i’ch tywys trwy’r broses.

Sut y gall Twf Swyddi Cymru eich helpu?
P’un a ydych yn fusnes bach â syniadau mawr ynteu’n gwmni mawr â bwlch i’w lenwi, gall y rhaglen eich paru â gweithiwr â’r doniau addas rhwng 16 a 24 oed.

Byddwch hefyd yn cael ad-daliad 50 y cant tuag at eu cyflogau ar gyfer y chwe mis cyntaf.

Ymhlith y manteision allweddol mae:

• Ad-daliad 50 y cant tuag at gyflog yr unigolyn ifanc am chwe mis
• Caiff eich swydd wag ei hysbysebu i bobl ifanc, ymrwymedig sy’n chwilio am waith
• Byddwch yn cael aelod ychwanegol o staff i helpu i dyfu eich busnes wrth ei helpu ar ei ysgol yrfa

Mae Nikki Pearce o Lionel’s Tackle Shop ym Mwcle, Gogledd Cymru yn un o’r cannoedd o fusnesau y mae Hyfforddiant Cambrian a Thwf Swyddi Cymru wedi’u helpu.

“Mae Twf Swyddi Cymru wedi bod yn llwyddiant enfawr i ni. Roedd yr ymgeiswyr a gyfwelwyd o safon uchel iawn.

Bellach mae gennym reolwr gwych a ddaeth atom trwy’r broses hon, a chynigiwyd swydd i ddau weithiwr arall yn y cwmni yn dilyn y cyfnod chwe mis. Mae ein gwerthiannau ar-lein wedi cynyddu ac mae’r gwasanaeth i gwsmeriaid mewn busnes yn parhau i fod yn rhagorol. Buaswn yn ei argymell yn gryf.”

Mewn gwirionedd cafodd un unigolyn ifanc ei enwi’n Gyflawnydd Eithriadol Twf Swyddi Cymru yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2016.

Mae Marc Pugh, 20 sy’n hanu o ardal Llanfair-ym-Muallt, Powys, yn gweithio mewn cartref ymddeol i geffylau ger Aberhonddu. “Buaswn yn argymell rhaglen Twf Swyddi Cymru i bawb. Ar ôl gadael y coleg, es i allan a dod o hyd i swydd. Dydw i heb edrych yn ôl ers hynny.”

Beth yw’r broses?
Mae’r broses yn syml iawn. Cyhyd ag y gall eich busnes gynnig swydd rhwng 25 a 40 awr yr wythnos, dan gontract am chwe mis o leiaf, yna rydych chi bron yno.

Gall ein Rheolwr Penodedig Twf Swyddi Cymru yn Hyfforddiant Cambrian siarad am y rôl rydych yn dymuno ei chynnig y math, yr hyn rydych eisiau ei gyflawni o ganlyniad a’r math o unigolyn rydych yn chwilio amdano i lenwi’r swydd honno.

Mae angen i chi sicrhau bod y rôl yn ychwanegol at eich anghenion gweithlu yn unig a dylai fod yn gynaliadwy, ag ymrwymiad i gadw eich gweithiwr ar ôl y chwe mis cychwynnol.

Mae Llywodraeth Cymru yn arwain y rhaglen â chyllid oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop a chaiff ei darparu trwy Hyfforddiant Cambrian fel un o’i hasiantau rheoli.

Pa ardaloedd o Gymru sy’n gymwys ar gyfer Twf Swyddi Cymru gyda Hyfforddiant Cambrian?
Mae’r rhan fwyaf o Ogledd, Canolbarth, De a Gorllewin Cymru yn gymwys i gael cymorth trwy’r rhaglen. Ymhlith y siroedd mae Ynys Môn, Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Fynwy, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Caerdydd a Chastell-nedd Port Talbot.

Gallwch ddarganfod mwy am Dwf Swyddi Cymru yma neu anfonwch neges e-bostinfo@cambriantraining.com neu ffôn 01938 555893.

Gall tyfu eich busnes fod yn heriol ac yn werth chweil ar yr un pryd. Dyna le y gall Hyfforddiant Cambrian a Thwf Swyddi Cymru eich helpu chi a’ch busnes.