Peter, y cigydd o fri, yn gobeithio ennill gwobr arall

Dydi Peter Rushforth ddim wedi edrych yn ôl ers iddo ddewis dilyn prentisiaeth mewn cigyddiaeth yn lle mynd i’r brifysgol.

Y llynedd, enillodd Peter, 22 oed o Goed-llai, fedal aur WorldSkills UK am gigyddiaeth a theitl Cigydd Ifanc y Flwyddyn gan y Meat Trades Journal. Bu hefyd yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig mewn Cystadleuaeth Ewropeaidd i Gigyddion Ifanc a daeth yn agos at y brig yng ngornest Premier Young Butchers.

Bu’n Gigydd Ifanc Cymru hefyd ac, eleni, cafodd ysgoloriaeth gan Hybu Cig Cymru i astudio chwarter blaen cig eidion a chynhyrchion cysylltiedig yn yr Unol Daleithiau a dewiswyd ef yn Brentis Uwch y Flwyddyn gan ei ddarparwr hyfforddiant, Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Yn awr, mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yn seremoni fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhelir yn y Celtic Manor, Casnewydd ar Hydref 20.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Dechreuodd Peter weithio yn Siop Fferm Swans yn Nhreuddyn, ger yr Wyddgrug, ar benwythnosau pan oedd yn 15 oed a neidiodd at y cyfle i ddilyn prentisiaeth yno pan adawodd yr ysgol gyda naw TGAU a thair Lefel A.

Symudodd ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen yn Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod i Brentisiaeth Uwch mewn Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu ac mae wedi cwblhau honno eleni.

Mae galw mawr am Peter i roi arddangosiadau cigydda ym Mhrydain a thramor a dywedodd: “Mae’r Brentisiaeth Uwch wedi bod o help mawr i mi ddeall llawer mwy am y busnes. .

“Mae fy mhrentisiaethau wedi agor drysau ar lawer o gyfleoedd, fel cystadlaethau. Mae fy sgiliau wedi cynyddu’n aruthrol ac maen nhw wedi fy ysgogi i ddysgu rhagor o sgiliau er mwyn rhagori.”

Dywedodd Clive Swan, perchennog Siop Fferm Swans: “Mae Peter yn ymgorffori popeth y mae’r Rhaglen Brentisiaethau’n sefyll drosto.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Peter ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”