Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn i Peter sy’n gigydd o fri

Dydi’r cigydd o fri, Peter Rushforth, ddim wedi edrych yn ôl ers iddo ddewis dilyn prentisiaeth yn lle mynd i’r brifysgol ac yn awr mae wedi ychwanegu gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn at ei gasgliad o wobrau.

Cyflwynwyd y wobr i Peter, 22 oed, o Goed-llai, yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhaliwyd yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd nos Wener.

Yn ogystal ag ennill y wobr, mae ar fin dechrau mewn swydd newydd gyda busnes o Gaer sy’n bwriadu dechrau cynnal dosbarthiadau cigydda yn y flwyddyn newydd. Talodd deyrnged i’r gefnogaeth a gafodd gan Clive a Gail Swan yn siop fferm Swans, Treuddyn, ger yr Wyddgrug wrth ddatblygu ei yrfa hyd yma.

“Daw’r wobr hon ar ddiwedd fy nghyfnod fel prentis ac mae hynny’n beth arbennig iawn,” meddai Peter. “Dros y pedair blynedd diwethaf, rwy wedi bod yn adeiladu at hyn. Fyddwn i ddim wedi gallu ei wneud heb Clive a Gail a byddaf yn ddyledus iddyn nhw am byth. Rwy wedi cael cefnogaeth wych gan fy nheulu a Chwmni Hyfforddiant Cambrian hefyd.

“Mae’n rhaid i ysgolion sylweddoli nad yw cymwysterau academaidd yn addas i bawb ac mae gwobrau fel hyn yn dangos beth y gallwch ei gyflawni fel prentis.”

Dywedodd noddwr y wobr, Iain Salisbury, prif weithredwr y Bartneriaeth Sgiliau Galwedigaethol (VSP): “Bob dydd, rydyn ni yn VSP yn gweld y lles y mae prentisiaid uwch yn ei wneud i’r busnesau lle maen nhw’n gweithio. Rydym wrth ein bodd yn noddi’r wobr hon sy’n dathlu, nid yn unig lwyddiant unigol Peter, ond y twf mewn Prentisiaethau Uwch yng Nghymru yn gyffredinol.”

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Roedd 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Y llynedd, enillodd Peter fedal aur WorldSkills UK am gigyddiaeth a theitl Cigydd Ifanc y Flwyddyn gan y Meat Trades Journal. Bu hefyd yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig mewn Cystadleuaeth Ewropeaidd i Gigyddion Ifanc a daeth yn agos at y brig yng ngornest Premier Young Butchers.

Bu’n Gigydd Ifanc Cymru hefyd ac, eleni, cafodd ysgoloriaeth gan Hybu Cig Cymru i astudio chwarter blaen cig eidion a chynhyrchion cysylltiedig yn yr Unol Daleithiau a dewiswyd ef yn Brentis Uwch y Flwyddyn gan ei ddarparwr hyfforddiant, Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Dechreuodd Peter weithio yn Siop Fferm Swans yn Nhreuddyn, ger yr Wyddgrug, ar benwythnosau pan oedd yn 15 oed a neidiodd at y cyfle i ddilyn prentisiaeth yno pan adawodd yr ysgol gyda naw TGAU a thair Lefel A.

Symudodd ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen yn Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod i Brentisiaeth Uwch mewn Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd ac mae wedi cwblhau honno eleni.

Mae galw mawr am Peter i roi arddangosiadau cigydda ym Mhrydain a thramor a dywedodd: “Mae’r Brentisiaeth Uwch wedi bod o help mawr i mi ddeall llawer mwy am y busnes.

“Wrth symud ymlaen trwy’r Prentisiaethau, mae drysau wedi agor ar lawer o gyfleoedd, fel cystadlaethau. Mae fy sgiliau wedi datblugu’n aruthrol ac mae hynny wedi fy ysgogi i ddysgu mwy o sgiliau er mwyn rhagori.”

Wrth longyfarch Peter am ennill y wobr, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae pob un a gyrhaeddodd y rownd derfynol wedi helpu i bennu safon aur mewn hyfforddiant galwedigaethol a dylid cymeradwyo hyn.

“Mae prentisiaethau a hyfforddeiaethau yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac yn fwy cyfartal. Mae Llywodraeth Cymru, gyda chymorth o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, o’r farn bod prentisiaethau a hyfforddeiaethau’n ffordd ardderchog o adeiladu gweithlu medrus a chystadleuol, mynd i’r afael â phrinder sgiliau a chryfhau economi Cymru.

“Ni fu erioed yn bwysicach i ni gynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau y bydd Cymru gyfan yn elwa ohonynt ac rydym yn ymroi i barhau â’r gwaith da sydd eisoes ar y gweill gyda busnesau, darparwyr hyfforddiant ac unigolion i gyflawni hyn.”

Y rhai eraill yn rownd derfynol y dosbarth hwn oedd: Megan Hession, Llanisien, Caerdydd sy’n gweithio i Montana Health Care, Caerffili a Rebecca Crook, Sain Tathan sy’n gweithio i Feithrinfa Ddydd Little Inspirations, y Barri.