Daniel yw’r cigydd ar y brig yng ngornest Cigydd y Flwyddyn

Profodd Daniel Raftery, cigydd dawnus o Ganolbarth Cymru, mai ef oedd brenin y cigyddion yn rownd derfynol yr ornest genedlaethol yn Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol ddydd Llun.

Llwyddodd Daniel, sy’n 34 oed ac yn lladdwr anifeiliaid gradd A yn Randall Parker Foods, Dolwen, Llanidloes, i wrthsefyll cystadleuaeth gref gan ddau arall i ennill teitl Cigydd y Flwyddyn Cymru.

Yn ail oedd Craig Holly o Neil Powell Butchers, Y Fenni, a enillodd deitl Cigydd Porc y Flwyddyn yn yr un digwyddiad llynedd ac yn drydydd roedd Dewi Davies o Siop Fferm Bethesda, Arberth.

Yn ogystal chgael y bri o gael ei enwi’n gigydd gorau Cymru, cafodd Daniel siec am £130, tra cafodd Holly £70 a derbyniodd Davies dlws.

Noddir y gystadleuaeth a drefnir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, gan Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales, Cymdeithas Amaethyddol y Sioe Frenhinol a Celtica Foods.

Roedd y gystadleuaeth a lwyfannwyd yn y Neuadd Garcas ar faes sioe Llanelwedd, yn brawf go iawn o sgiliau’r cigyddion mewn tair tasg. Rhoddwyd awr iddynt dorri ochr uchaf o Gig Eidion Cymru ar hyd y cyhyr, 70 munud i greu cynhyrchion parod i’r gegin i gwsmeriaid o flwch dirgel o gynhwysion a 90 munud i greu arddangosfa farbeciw cyffrous yr olwg o gyw iâr, Cig Eidion Cymru, Cig Oen Cymru a phorc.

Gan chwilio am syniadau newydd a chreadigol, graddiodd y beirniaid y sawl yn y rownd derfynol am eu techneg torri, gwerth ychwanegol, technegau arddangos, HACCP a hylendid personol a’r cynnyrch uchaf o’r carcas.

Dywedodd Daniel, sy’n byw yn Aber-miwl, ger y Drenewydd, mai dim ond ei ail gystadleuaeth oedd hon a chafodd syndod o ennill ond roedd ar ben ei ddigon. “Aeth popeth yn weddol llyfn, ond aeth yr amser yn gyflym iawn” ychwanegodd.

“Roeddwn i wedi bod yn ymarfer yn ystod yr wythnos flaenorol ond allwn i ddim paratoi am yr hyn oedd yn y blwch dirgel, a’m taflodd oddi ar fy echel. Rwy’n teimlo bod y cystadlaethau’n anodd oherwydd roedd hi’n 10 mlynedd yn ôl arnaf yn gweithio fel cigydd adwerthu. Rwy’n ffodus o gael cefnogaeth lawn fy nghyflogwr i gystadlu.”

Mae bellach yn bwriadu cystadlu yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Worldskills UK mewn Cigyddiaeth a hoffai agor siop cigydd yn y dyfodol. Gobeithia ddilyn yn ôl troed y cigyddion dawnus o Gymru Peter Rushforth a Matthew Edwards, a gynrychiolodd y DU ac a enillodd Gystadleuaeth Genedlaethol Worldskills UK mewn Cigyddiaeth.

Rhoddodd Chris Jones o Gwmni Hyfforddiant Cambrian, a feirniadodd y rownd derfynol gyda Steve Vaughan o Vaughan’s Family Butchers, Penyffordd, glod i safon uchel y gwaith a gynhyrchwyd gan y tri chigydd.

“Roedd hi’n gystadleuaeth agos iawn gyda’r tri benben yr holl ffordd” meddai. “Roedd Daniel mor drefnus a gwnaeth bopeth yn berffaith. Cynhyrchodd gynhyrchion da, glân a’u harddangos yn dda.

“Yr hyn sy’n hynod drawiadol yw bod Daniel wedi cadw ei sgiliau cigyddiaeth adwerthu er gwaetha’r ffaith iddo fod allan o’r maes ers 10 mlynedd. Mae bod yn lladdwr anifeiliaid gradd A yn swydd fedrus dros ben sy’n gofyn am gywirdeb, glendid a chyflymder, wrth i gigyddiaeth adwerthu ofyn am fwy o gynildeb a gwybodaeth am sut i arddangos cig.”