Anrhydedd enfawr i Arwyn yn sgil cael ei gydnabod ag OBE

Dywed ffigwr blaengar yn y sector dysgu yn y gwaith yng Nghymru iddo deimlo anrhydedd enfawr o gael ei wobrwyo ag OBE yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd am ei wasanaethau i addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Mae Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, yn eithriadol o falch fod y wobr yn cydnabod y cyfraniad y mae’r sector annibynnol yn ei wneud tuag at addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

“Fel rheol, rhoddir y wobr hon i gyfarwyddwyr addysg a phenaethiaid sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch”, meddai. “Mae’n anrhydedd enfawr a hoffwn feddwl ei fod yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae’r sector hyfforddiant annibynnol yn ei wneud at fywydau dyddiol y bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

“Mae’n gydnabyddiaeth hefyd i Gwmni Hyfforddiant Cambrian, yr ymunais ag ef 20 mlynedd yn ôl, ac i’m teulu. Allwn i ddim â gwneud yr amrediad gwaith rwy’n ei wneud heb eu cefnogaeth lawn nhw.”

Mae Mr Watkins yn ffigwr allweddol yn y sector dysgu yn y gwaith yng Nghymru, wedi iddo wasanaethu yn y gorffennol fel cadeirydd a phrif weithredwr Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru lle bu’n gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’r rhwydwaith i ffurfio’r rhaglenni llwyddiannus a gyflwynir yng Nghymru heddiw.

Mae’n aelod o fwrdd Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol Gorllewin a Chanolbarth Cymru, yn ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Bwyd Prydain, yn llywydd Cymdeithas Coginiol Cymru ac yn aelod o Bwyllgor Bwydo’r Blaned a Chynaliadwyedd WorldChefs.

Yn fab i ffermwr, gadawodd Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt i ymuno â’r Fyddin fel cogydd prentis ac mae wedi cadw ei ymrwymiad i raglenni prentisiaeth byth ers hynny. Wrth adael y Fyddin, ymunodd â’r Llynges Fasnachol, gan weithio i Stena Line a daeth yn ddarlithydd coleg arlwyo yng Nghaint cyn dychwelyd i Ganolbarth Cymru i ymuno â Chwmni Hyfforddiant Cambrian ym 1998.

Mae’r cwmni wedi mwynhau twf sylweddol dan ei arweinyddiaeth, gan ennill Darparwr Prentisiaethau’r Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2007 a 2012 ynghyd â chyfres o glodydd eraill. Mae’r cwmni bellach yn cyflogi dros 120 o aelodau staff ac isgontractwyr.

Sgiliau coginio yw un o’i brif gariadon a hyfforddodd Tîm Coginio Iau Cymru i fedal aur yn y Gemau Coginio Olympaidd yn 2004. Fel aelod o Bwyllgor Cenedlaethol y Gwobrau Gallu Cymhwysol, roedd yn allweddol wrth redeg rhaglenni peilot yng Nghymru gan arwain at gymwysterau arloesol wedi’u harwain gan grefftau i gogyddion.

Rheolodd dîm yn gynharach eleni a ddenodd Gynhadledd Ewropeaidd WorldChefs i’r Celtic Manor Resort yng Nghasnewydd. Mae bellach yn rhan o gais tîm i gynnal Cynhadledd WorldChefs yng Nghanolfan Confensiynau Ryngwladol Cymru yn y Celtic Manor Resort yn 2024.

I ffwrdd o’r gwaith, mae Mr Watkins yn llywydd ar ei glwb rygbi lleol, Cobra RFC.

 

Picture captions: Arwyn Watkins, OBE.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwyn Watkins, llywydd Cymdeithas Coginiol Cymru ar y Ffôn: 01938 555893 neu 07831 697494 neu Duncan Foulkes, swyddog cyhoeddusrwydd ar y Ffôn: 01686 650818.