Dyddiad cau 31 Ionawr ar gyfer gwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian

Bydd unigolion a chyflogwyr sydd wedi rhagori mewn rhaglenni hyfforddiant prentisiaethau, sgiliau a chyflogaeth, a gyflwynwyd gan un o gwmnïau hyfforddiant gorau Cymru, yn cael eu cydnabod y gwanwyn hwn.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian, a chanddo swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli, bellach yn derbyn enwebiadau am ei Wobrau Prentisaeth, Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol, a’r dyddiad cau am geisiadau yw 31 Ionawr. Rhaid i’r cyflogwyr a’r dysgwyr fod ynghlwm â rhaglenni a gyflwynir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian er mwyn ymgeisio.

Roedd y gwobrau, a gynhaliwyd am y tro cyntaf y llynedd, yn llwyddiant ysgubol, gan ddenu enwebiadau o Fôn i Fynwy. Bydd hufen 2018 yn ymgynnull yn y Pafiliwn Rhyngwladol ym maes y Sioe Frenhinol, Llanfair-ym-muallt am y noson cyflwyno gwobrau ar 7 Mawrth, sy’n cyd-daro a’r Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.

“Mae’r gwobrau hyn yn dathlu popeth sy’n dda am hyfforddiant, prentisiaethau a sgiliau yng Nghymru,” meddai Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian. “Rydym yn ffodus o weithio gyda rhai cyflogwyr a dysgwyr rhagorol ar hyd a lled Cymru wrth inni gyflwyno ystod o raglenni hyfforddiant, prentisiaeth, sgiliau a chyflogaeth ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae gan bob un busnes, prentis neu ddysgwr eu stori a’u cyflawniad eu hunain i’w hadrodd, a fu’n anogaeth i ni lansio’n gwobrau ein hunain.

“Mae’r gwobrau hyn yn dathlu cyflawniadau unigolion a chyflogwyr sydd wedi rhagori ar y disgwyliadau yn ystod eu hymgysylltiad a’u hymrwymiad i raglenni hyfforddiant a sgiliau ac a ddangosodd ddull unigryw o hyfforddi a datblygu ac sydd wedi dangos menter a blaengaredd, arloesedd a chreadigedd.”

Ceir Gwobrau Ymgysylltu Cyflogwyr â Phrentisiaeth ar gyfer busnesau bach, canolig, mawr a macro gyda chydnabyddiaeth i Unigolyn Rhagorol y Flwyddyn Twf Swyddi Cymru.

Yn ogystal, bydd gwobrau categori ar gyfer y Prentis Sylfaen, Prentis ac Uwch Brentis y Flwyddyn. Bydd enillwyr pob categori yn cael cyfle i gael eu cynnwys yn awtomatig ar gyfer Gwobrau Prentisiaeth mawreddog Cymru, a gyd-drefnir gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru ym mis Hydref.

Dywedodd Danny Foulkes, 19 oed, Prentis y Flwyddyn y llynedd a rheolwr prosiect dan hyfforddiant yn Evabuild, y Drenewydd: “Roedd hi’n wych cael fy nghydnabod gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian ac mae wedi gwneud fy holl waith caled a’r aberth personol yn werth chweil. Nid wy’n petruso argymell y gwobrau hyn i brentisiaid, dysgwyr a chyflogwyr eraill.”

Yn ogystal, cymeradwywyd y gwobrau gan Tracy Israel, pennaeth dysgu a datblygu y Celtic Manor Resort, Casnewydd, a enillodd gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn y llynedd.

“Roedd gwobr Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn hynod bwysig i ni oherwydd roedd yn cydnabod cyflawniadau’r busnes a’i brentisiaid,” meddai. “Prentisiaethau yw asgwrn cefn datblygiad y gweithwyr yn y Celtic Manor Resort a chynigiant lwybr gyrfa i bobl sy’n dewis peidio â dilyn llwybr academaidd.”

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Gellir lawrlwytho ffurflenni cais yn https://www.cambriantraining.com/cambrian-training-company-awards-2018/ neu gellir cysylltu â Katy Godsell drwy e-bost: katy@cambriantraining.com

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555 893 neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ar Ffôn: 01686 650818.