Arron yn dathlu buddugoliaeth Cogydd Iau Cymru

Cyflawnodd y cogydd dawnus Arron Tye un o uchelgeisiau ei yrfa pan dderbyniodd tlws Cogydd Iau Cymru neithiwr (nos Iau).

Cipiodd y chef de partie 23 oed o Westy Carden Park, Caer ac sy’n gapten ar Dîm Coginio Iau Cymru, y teitl hynod ddymunol ar ôl rownd derfynol agos ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru (WICC)  ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos

“Rydw i wedi bod eisiau ennill y wobr hon erioed a gobeithio y gallaf fynd ymlaen i rownd derfynol Cogydd Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol,” dywedodd. “Rwy’n gobeithio bod y wobr hon yn golygu fy mod i’n mynd i wneud pethau mawr a symud i fyny gyda’m gyrfa.”

Daeth cyd-aelod Tye ar Dîm Coginio Iau Cymru, sef Harry Paynter-Roberts, 20 oed, o Fwyty Manchester House, Manceinion, yn agos at y brig am yr ail flwyddyn yn olynol.

Ymhlith y rhai eraill agos at y brig oedd Oliver Thompson, 19 oed, The Bull, Biwmares, Luke Rawicki, 20 oed, sy’n gweithio yn The Slaughters Manor House, Lower Slaughter, Cheltenham a Thomas Martin, 21 oed, Gwesty Holm House, Penarth.

Gwobr Tye am ennill y gystadleuaeth yw taith goginio hollgynhwysol o dridiau gyda Koppert Cress yn yr Iseldiroedd, a fydd yn cynnwys dosbarth meistr gan gogydd dau seren Michelin, coginio i brif weithredwr y cwmni mewn cegin ddatblygu a chyflwyniad i ddatblygiadau berwr newydd a thueddiadau newydd ym marchnad goginio’r Iseldiroedd.

Yn ogystal, cymhwysodd yn awtomatig am rownd gynderfynol Cystadleuaeth Cogydd Ifanc Cenedlaethol y Flwyddyn y Craft Guild of Chefs a derbyniodd set o gyllyll Friedr Dick wedi’u hysgythru a thaleb gwerth £100 am gynhyrchion Churchill.

Coginiodd y cogyddion fwydlen tri chwrs i bedwar o bobl mewn tair awr gan ddefnyddio cynhwysion o Gymru ble bynnag yr oedd hynny’n bosibl.

Dechreuodd fwydlen fuddugol Tye gyda chwrs cyntaf o gregyn bylchog Ynys Môn a ffiled o ysbinbysg y môr wedi’u ffrio mewn padell gyda tortellini, cennin bychain Cymreig llosg, cwpanau nionod wedi’u piclo, piwrî cennin a chawl nionod. Ei brif gwrs oedd ffiled o borc organig Ystâd y Rhug wedi’i lapio mewn pancetta wedi’i weini gyda selsig saets a nionod, moron ifanc sglein, bresychen grech wedi’i rhostio mewn pot a phiwrî oren a moron. Y pwdin oedd teisen had rêp Blodyn Aur gydag afalau seidr Gwynt y Ddraig, tuile dil mêl, cremeux mwyar Logan a hufen iâ mwyar duon.

Gweinodd Paynter-Roberts gwrs cyntaf o gregyn bylchog rhost, seleriac a beurre noisette wedi’i ddilyn gan brif gwrs o frest hwyaden wedi’i halltu, mwyar duon a betys cochion pob. Y pwdin oedd afal cwins, gwin coch, hufen iâ cnau Ffrengig a fanila.

Trefnir Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru gan Gymdeithas Coginiol Cymru a’r prif noddwr yw Bwyd a Diod Cymru, sef adran Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n cynrychioli’r diwydiant bwyd a diod.

Ymhlith y noddwyr eraill mae Hybu Cig Cymru, Castell Howell, Major International, Harlech Foods, H.N. Nuttall, Churchill, MCS Tech, Rollergrill, Koppertcress a Dick Knives.

Roedd seigiau Martin yn cynnwys cwrs cyntaf o dartar ysbinbysg y môr a chranc, prif gwrs o gig oen, cennin a seleriac a phwdin o soufflé rhiwbob gyda hufen iâ sinsir. Oherwydd problem gyda’i gymysgedd soufflé, methodd â gweini ei bwdin mewn pryd.

Coginiodd Thompson gwrs cyntaf o frenin-gragen fylchog Menai wedi’i ffrio mewn padell, blodfresych a phiwrî siocled gwyn a vinaigrette melys a sur. Y prif gwrs oedd lwyn o gig carw rhost o Gymru, pommes Anna, betys cochion wedi’u pobi mewn halen a grefi siocled mwg. Y pwdin oedd afal wedi’i botsio cynnes, tuile cnau barfog, ganache caramel a dresin saets a gwin melys.

Dechreuodd fwydlen Rawicki gyda chefndedyn cig llo, madarch, blodfresych a mêr esgyrn wedi’i ddilyn gan brif gwrs o ddraenog y cerrig, cragen gylchog wedi’i phiclo, cennin a saws dulce. Y pwdin oedd mousse mêl, sinsir, lemwn a chwisgi.

Beirniaid y rownd derfynol oedd is-lywydd Cymdeithas Coginiol Cymru Colin Gray, cyfarwyddwr cyfandirol Worldchefs ar gyfer Gogledd Ewrop, Dragan Unic, rheolwr  Tîm Coginio Iau Cymru, Michael Evans, capten Tîm Coginio Cymru, Danny Burke a Nick Davies.

Trefnir Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru gan Gymdeithas Coginiol Cymru a’r prif noddwr yw Bwyd a Diod Cymru, sef adran Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n cynrychioli’r diwydiant bwyd a diod.

Ymhlith y noddwyr eraill mae Hybu Cig Cymru, Castell Howell, Major International, Harlech Foods, H.N. Nuttall, Churchill, MCS Tech, Rollergrill, Koppertcress a Dick Knives.