Deunaw mewn rownd derfynol ar restr gwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian

Mae deunaw cyflogwr a dysgwr sydd wedi rhagori mewn rhaglenni prentisiaeth, sgiliau a hyfforddiant cyflogaeth a gyflwynwyd gan un o gwmnïau hyfforddiant gorau Cymru wedi’u cynnwys ar restr fer am wobrau.

Bydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian, a chanddynt swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli, yn cyflwyno’i Wobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol yn y Pafiliwn Rhyngwladol ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ar 7 Mawrth i gyd-daro â’r Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.

Rhaid i’r cyflogwyr a’r dysgwyr fod yn cymryd rhan yn y rhaglenni a gyflwynir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian er mwyn cael eu henwebu am y gwobrau.

Roedd y gwobrau, a gynhaliwyd am y tro cyntaf y llynedd, yn llwyddiant ysgubol a denwyd goreuon 2018 o bob rhan o Gymru. Byddant yn ymgasglu yn y Pafiliwn Rhyngwladol ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanfair-ym-Muallt ar gyfer y seremoni wobrwyo ar 7 Mawrth, sy’n cyd-daro â’r Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.

Ceir Gwobrau Ymgysylltiad mewn Prentisiaethau’r Cyflogwr ar gyfer mentrau bach, canolig a mawr. Ar restr fer Cyflogwr Mawr y Flwyddyn eleni mae: Tîm Rheoli Adnoddau’n Gynaliadwy Cyngor Sir Powys, Aberhonddu; tîm lletygarwch Stena Line, Wdig a Sidoli, y Trallwng.

Yn rownd derfynol Cyflogwr Canolig y Flwyddyn mae: Tîm Rheoli Adnoddau’n Gynaliadwy Antur Waunfawr, Caernarfon; Mainetti, Wrecsam a Thîm Rheoli Adnoddau’n Gynaliadwy Potters, y Trallwng.

Yn rownd derfynol Cyflogwr Bach y Flwyddyn mae:  Lelo Skip Hire Ltd, Brynsaithmarchog a Wickedly Welsh, Hwlffordd.

Yn rownd derfynol y tri chategori ar gyfer dysgwyr mae’r canlynol: Prentis Sylfaen y Flwyddyn (Lefel 2): Kelly Venables-Jones, Mainetti, Wrecsam; Thomas Martin, Gwesty Holm House, Caerdydd a Codi Louise Wiltshire, Jewson Ltd, Llanfair-ym-Muallt.

Prentis y Flwyddyn (Lefel 3): Mitchell Penberthy, Charlton House, CH&Co, Penarth; Daniel Raftery, Randall Parker Foods, Llanidloes; Daniel Roberts, Lelo Skip Hire Ltd, Brynsaithmarchog; Rhiannon Lee Wilson, Links Electrical Supplies Ltd, Y Drenewydd a Paul McCarley, Tîm Rheoli Adnoddau’n Gynaliadwy Cyngor Sir Powys, Rhaeadr Gwy.

Uwch Brentis y Flwyddyn (Lefel 4 ac uwch): Karen Jones, Euro Garages, Dolgellau a George Carwyn Gilberthorpe, Gower Holiday Parks Ltd, Abertawe.

Bydd enillwyr pob categori’n cael cyfle i gael eu cynnwys yn awtomatig am Wobrau mawreddog Prentisiaethau Cymru, a drefnir ar y cyd gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru ym mis Hydref.

“Mae’r gwobrau hyn yn dathlu cyflawniadau unigolion a chyflogwyr sydd wedi rhagori ar eu disgwyliadau yn ystod eu hymgysylltiad a’u hymrwymiad i raglenni hyfforddiant a sgiliau,” meddai Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

“Maen nhw wedi dangos dull unigryw o hyfforddi a datblygu ac wedi dangos blaengaredd a menter, arloesed a chreadigedd.

“Rydym yn ffodus o weithio gydag ambell i gyflogwr a dysgwr rhagorol ar hyd a lled Cymru wrth gyflwyno ystod o raglenni hyfforddiant prentisiaeth, sgiliau a chyflogaeth ar ran Llywodraeth Cymru.”

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.