O olchwr sosbenni i gogydd sy’n ennill medalau aur mewn tair blynedd

Mae bachgen yn ei arddegau yng Ngogledd Cymru wedi mynd o olchi sosbenni i fod yn gogydd medal aur mewn tair blynedd ar ôl cofrestru i ddilyn prentisiaeth mewn coginio proffesiynol.

Enillodd Joseph Lloyd, 19 oed, o Drelawnyd, ger y Rhyl, y fedal aur am ei brif gwrs Cig Oen Cymru gorau yn y dosbarth ym Mhencampwriaeth Coginio Rhyngwladol Cymru a ddenodd gogyddion o Fôn i Fynwy ac o Loegr i gampws Llandrillo-yn-Rhos Grŵp Llandrillo Menai fis diwethaf.

Yn sgil ei ymroddiad, mae wedi gweithio’i ffordd i fyny’r ysgol o olchi sosbenni i fod yn chef de partie yng Ngwesty Castell Bodelwyddan ym Modelwyddan yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

Ar ôl cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Coginio Proffesiynol, mae bellach wedi symud ymlaen i Brentisiaeth gyda’r darparwr dysgu arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Rhoddodd ei swyddog hyfforddiant, Nora Jones, glod i’w ymrwymiad i ddysgu sgiliau newydd. “Mae Joe yn ddysgwr ac yn weithiwr cyflym iawn ond mae’n hoffi sicrhau bod ei seigiau’n blasu’n dda,” dywedodd.

“Ar gyfer y gystadleuaeth ym Mhencampwriaeth Coginio Rhyngwladol Cymru, roedd yn gwybod yn union beth roedd eisiau coginio a gwnaeth cryn dipyn o ymchwil cyn y gystadleuaeth. Roedd ar ben ei ddigon o ennill medal aur.

“Mae’n cyd-dynnu’n dda iawn gyda’r cogyddion yng Ngwesty Castell Bodelwyddan. Mae pawb yn mwynhau gweithio gydag ef ac maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn iddo.”

Disgrifiwyd Joe fel cogydd naturiol gan gogydd gweithredol y gwesty, Bob Hughes. “Roedd yn golchi sosbenni 18 mis yn ôl ac mae bellach yn rhedeg sifft i mi, gan goginio i hyd at 450 o bobl, felly mae’n amlwg bod ganddo botensial mawr,” dywedodd. Mae’n gweithio’n galed iawn.”

Rhoddodd Joe ganmoliaeth i’r gefnogaeth mae’n ei chael gan gogyddion y gwesty a Chwmni Hyfforddiant Cambrian a’i uchelgais pennaf yw perchen ar ei fwyty ei hun un diwrnod.

Esboniodd iddo adael chweched dosbarth yr ysgol i ddechrau gweithio oherwydd roedd am ennill cyflog ac nid yw’n edifarhau tynnu allan o’r llwybr dysgu academaidd.

“Roedd yn benderfyniad da wrth reswm oherwydd rydw i bellach yn gweithio fel cogydd ac yn mwynhau’r hyn rwy’n ei wneud,” meddai. “Byddwn yn argymell prentisiaeth oherwydd mae’n rhoi cyfle i chi weithio ac ennill arian a chyflawni cymwysterau ar yr un pryd. Mae hynny’n berffaith i mi.”

Gan deimlo’n falch o fod wedi ennill medal aur yn ei gystadleuaeth gyntaf, ychwanegodd: “Roedd yn brofiad da gweithio dan bwysau ac nid oeddwn yn disgwyl gwneud cystal. Gobeithio y bydd y fedal yn fy helpu i symud ymlaen yn fy swydd.”