Cigyddiaeth yn cyrraedd nod WorldSkills diolch i Gwmni Hyfforddiant Cambrian

Mae’r darparwr dysgu Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd wedi ennill gwobrau, wedi dangos sut i weithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus trwy sicrhau bod cigyddiaeth yn cael ei mabwysiadu fel Cystadleuaeth Genedlaethol WorldSkills UK am y tro cyntaf eleni.

Bellach mae’n bosibl y bydd y cwmni arloesol o’r Trallwng yn ennill gwobr bwysig yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2015. Mae’r cwmni yn un o ddau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer categori Gwobr i Ddarparwr am Weithio mewn Partneriaeth yn y seremoni gwobrwyo proffil uchel a gynhelir yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar ddydd Iau, Hydref 29.

Mae’r gwobrau o fri yn dathlu cyflawniadau eithriadol y rheiny sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau, wedi dangos dull dynamig o ymdrin â hyfforddiant ac wedi dangos blaengarwch, menter, arloesedd, creadigrwydd ac ymrwymiad i wella datblygiad sgiliau ar gyfer economi Cymru.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), mae Pearson CCC yn eu noddi a Media Wales yw’r partner yn y cyfryngau. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru â chefnogaeth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi dwyn ynghyd chwaraewyr allweddol o bob rhan o’r diwydiant cig a’r sector hyfforddiant i sefydlu’r gystadleuaeth newydd, sydd wedi cynnwys rhagbrofion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Yn sgil y rhagbrofion hyn roedd chwe chigydd yn gymwys ar gyfer y rownd derfynol a gynhelir yn y Skills Show ym Mirmingham ym mis Tachwedd.

Ar ôl mynd â phrentisiaid cigyddiaeth o Gymru i ddangos eu sgiliau yn y Skills Show bob blwyddyn ers 2011, roedd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn awyddus i ychwanegu’r alwedigaeth at WorldSkills i godi proffil cigyddion medrus ar draws y DU.

Fel partner sy’n trefnu, gwnaeth y cwmni gais llwyddiannus i Find a Future, sy’n gyfrifol am bortffolio cystadlaethau WorldSkills ac roedd cigyddiaeth yn un o blith tair yn unig o gystadlaethau a ddewiswyd o restr o 18.
.
“Roeddem yn teimlo y dylai cigyddiaeth gael ei chynrychioli i gefnogi a datblygu dysgwyr a hyfforddwyr ymhellach, i greu ymwybyddiaeth o ran y sgiliau, gyrfaoedd a chymwysterau galwedigaethol sydd ar gael i genedlaethau’r dyfodol ac i godi proffil y diwydiant i gynulleidfa ehangach ar lwyfan cenedlaethol,” meddai cydlynydd y gystadleuaeth Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Yn ogystal â’r gystadleuaeth newydd, mae’r cwmni hefyd yn trefnu cystadleuaeth flynyddol Cigydd Ifanc Cymru.

Cwmni Hyfforddiant Cambrian oedd enillydd gwobr Darparwr Dysgu’r Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2012, mae 52 o bobl yn rhan o weithlu’r Cwmni ac yn darparu fframweithiau Prentisiaeth sy’n amrywiaeth o letygarwch i reolaeth gynaliadwy ar adnoddau.

Estynnodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, Julie James longyfarchiadau i Gwmni Hyfforddiant Cambrian a’r 36 ymgeisydd arall a gyrhaeddodd rownd derfynol y gwobrau. “Mae gennym brentisiaid gwirioneddol eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn darparu llwyfan perffaith i ni ddathlu eu cyflawniadau a’u gwaith caled,” meddai hi.

“Mae’r cyflogwyr a’r darparwyr hyfforddiant yr un mor bwysig, gan fynd cam yn ychwanegol i gefnogi eu prentisiaid. Mae datblygu pobl ifanc medrus yn hanfodol i’n heconomi. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i raglenni hyfforddiant fel Prentisiaethau ond mae’n rhaid i fuddsoddiad fod yn gyfrifoldeb a rennir â’r sector addysg, busnesau ac unigolion.”

Capsiwn y llun:

Prentis Arwyn Morris yn ymarfer ei sgiliau dan oruchwyliaeth (o’r chwith) rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian Katy Godsell, y rheolwr gyfarwyddwr Arwyn Watkins a phennaeth cwricwlwm gweithgynhyrchu bwydydd Chris Jones.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â Duncan Foulkes ar Ffôn: 01686 650818 neu 07779 785451 neu e-bost: duncan.foulkes@btinternet.com neu Karen Smith, rheolwr marchnata a chyfathrebu NTfW, ar Ffôn: 02920 495861