Gwobr genedlaethol yn cydnabod ymrwymiad gwesty glan môr i brentisiaethau

Picture caption: Rheolwr Cyffredinol Gwesty’r Harbourmaster, Dai Morgan, yn derbyn Gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn gan Kim Churcher, Rheolwr Gyfarwyddwr noddwr y wobr Wales England Care.

Mae gwesty, bar a bwyty annibynnol ar lannau Bae Ceredigion, sy’n datblygu ac yn meithrin ei staff ei hunan, wedi ennill gwobr genedlaethol am ei ymrwymiad cryf i brentisiaethau.

Enillodd Gwesty’r Harbourmaster, Aberaeron wobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd.

Roedd y gwobrau’n tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Eleni, Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig, oedd prif noddwr Gwobrau Prentisiaethau Cymru a drefnwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Dywedodd Dai Morgan, Rheolwr Cyffredinol Gwesty’r Harbourmaster: “Rydym yn falch iawn bod ein prentisiaid a’r cwmni wedi cael eu cydnabod â’r wobr hon. Mae’n anhygoel.

“Rŷn ni wedi cael help mawr gan gwmni Hyfforddiant Cambrian dros y blynyddoedd ac maent wedi cynnig nifer o syniadau i ni ymateb iddynt. Rydym yn gwmni lleol sy’n barod i fuddsoddi amser ac arian er mwyn hyfforddi a datblygu’r bobl leol sy’n gweithio i ni.”

Nod y gwesty, sydd â 13 o ystafelloedd gwely moethus, boutique, yw cynnig gofal ardderchog i’w gwsmeriaid a phrofiad rhagorol i ymwelwyr er mwyn cynnal yr enw da sydd ganddo ledled Prydain.

Oherwydd ei ymrwymiad i brentisiaethau, mae’r gwesty wedi llwyddo i gynnal gweithlu o 40 o weithwyr medrus a brwd wrth iddo geisio goresgyn problem prinder sgiliau yn y diwydiant lletygarwch trwy feithrin ei staff medrus ei hunan.

Ar hyn o bryd, mae gan yr Harbourmaster 11 o brentisiaid, mae wedi hyfforddi 20 dros y pum mlynedd diwethaf ac mae’n bwriadu cyflogi mwy yn y dyfodol. Mae Hyfforddiant Cambrian yn cynnig Prentisiaeth Sylfaen BIIAB Lefel 2, Prentisiaethau mewn Coginio Proffesiynol Lefel 2 a Lefel 3 a chyfleoedd i symud ymlaen i wneud Coginio Celfydd yr AAA, Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch Lefel 3 a Rheoli Lletygarwch Lefel 4.

“Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn meithrin ein staff ein hunain i gyrraedd eu potensial, gan weithio yn eu sir enedigol a chyfrannu at economi’r ardal,” meddai Mr Morgan. “Ein nod o’r cychwyn fu datblygu tîm cryf yn yr Harbourmaster ac rydym wedi llwyddo i wneud hyn oherwydd y cyfleoedd a gynigir gan brentisiaethau.

“Mae hyfforddiant wrth weithio yn werthfawr i unrhyw fusnes gan ei fod yn galluogi’r dysgwr i feithrin sgiliau a gwybodaeth yn y gwaith. Daeth yn amlwg fod aelodau o’r staff sydd ar y Rhaglen Brentisiaethau’n dangos gwelliant yn eu gwaith, mwy o ymroddiad i’r swydd a hyder aeddfed wrth ymwneud ag ymwelwyr yn y gwesty. ”

Dywedodd Chris Bason, Pennaeth Lletygarwch gyda Hyfforddiant Cambrian: “Mae Gwesty’r Harbourmaster yn dangos sut y gall ymroddiad i raglen brentisiaethau esgor ar lwyddiant.”

Wrth longyfarch Gwesty’r Harbourmaster, dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: “Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant pawb sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr dysgu a hyfforddeion. Mae pob un ohonynt wedi chwarae rhan hanfodol yn pennu’r safon ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol ac maent yn haeddu eu cymeradwyo.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Cewch wybod rhagor trwy gysylltu â Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818 neu 07779 785451 neu e-bostio: duncan@duncanfoulkespr.co.uk.