Arloeswyr y dyfodol yn cael cipolwg ar y byd busnes

Mae arloeswyr ifanc y dyfodol wedi cael cipolwg ar y byd busnes trwy ymweliad â Invertek Drives Ltd yng Nghanolbarth Cymru a’i gwmnïau cyfagos.

Aeth disgyblion o Ysgol Gynradd Llanfair Caereinion i ymweld â phencadlys a chanolfan gynhyrchu byd-eang  Invertek ym Mharc Busnes Clawdd Offa yn y Trallwng, Powys, fel rhan o ddiwrnod menter a drefnwyd gan Hyfforddiant Cambrian Cyf.

Aeth y plant i ymweld â chwmnïau eraill yn y parc busnes, gan gynnwys Dynacast, Kingswood Framing, Zip-Clip a phencadlys Hyfforddiant Cambrian.

Tywyswyd y disgyblion o gwmpas y swyddfeydd a’r ganolfan gynhyrchu yn Invertek, a chawsant gyfle i gyfarfod â’r timau o’r adrannau arloesi, technegol, gwerthiant, marchnata, cyllid ac Adnoddau Dynol, yn ogystal â’r cyfarwyddwyr.

“Gallai ymweliad fel hyn ysbrydoli plentyn i sylweddoli bod ystod eang o yrfaoedd iddynt eu hystyried,” meddai Dylan Jones o Invertek Drives.

“Mae’n bosibl eu bod yn gweld unedau busnes a ffatrïoedd ac yn meddwl amdanynt gyda pheiriannau mawr ynddynt. Ond pan allwch ddangos iddynt yr arloeswyr sy’n dylunio’n cynhyrchion, y ganolfan gynhyrchiant technoleg uchel a’r llu o bobl sy’n gyrru ein busnes yn ei flaen, yna mae hedyn o gyfle’n cael ei blannu yn eu meddyliau.”

Dywedodd Hyfforddiant Cambrian Cyf, a drefnodd y diwrnod, ei bod hi’n bwysig i fusnesau gydweithio i ysbrydoli plant a phobl ifanc i wireddu’r cyfleoedd gyrfa oedd ar y rhiniog.

“Roeddem yn awyddus i drefnu trip diwrnod menter i’r parc busnes er mwyn i ddisgyblion allu dysgu am fusnes, sut maen nhw’n gweithio, sut dechreuon nhw a beth maen nhw’n ei wneud,” meddai Emma Morris, swyddog ymgysylltu yn Hyfforddiant Cambrian Cyf.

“Mae’r disgyblion wedi bod yn rhedeg eu busnes eu hunain yn Ysgol Gynradd Llanfair Caereinion lle cawsant y dasg o dyfu buddsoddiad o £5. Bydd yn arwain at ffair ysgol yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Galluogodd yr ymweliad â busnesau go iawn iddynt weld beth mae pob un ohonom yn ei wneud a’u hysbrydoli nhw ar gyfer eu menter eu hunain.”