Mae angen gweinyddwyr ar bob lefel ar sefydliadau; o ysgrifenyddion i weithredwyr datblygu busnes sy’n gwneud penderfyniadau strategol i gynorthwywyr gweinyddol gydag ystod eang o sgiliau clerigol.

Ceir cyfleoedd i weinyddwyr ar draws y rhan fwyaf o sectorau yng Nghymru. Gall cyflogwyr amrywio o gorfforaethau rhyngwladol gyda miloedd o aelodau staff, i gwmnïau bach gyda llai na deg gweithiwr.

Yn Hyfforddiant Cambrian, cynigiwn brentisiaethau o lefel sylfaen i brentisiaethau uwch ar draws Cymru. Gall dysgu trwy prentisiaethau helpu staff i ddatblygu sgiliau ymarferol sy’n hanfodol i greu gyrfa lwyddiannus.

Bydd ein rhaglenni prentisiaeth yn rhoi’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y diwydiant.

Hyfforddiant a Phrentisiaethau

Gellir defnyddio prentisiaethau mewn Busnes a Gweinyddiaeth ar draws ystod eang o sectorau a rolau, a chyflwynir hyfforddiant mewn ystod eang o ffurf. Mae’r Fframwaith Cymwysterau Chredydau’n cynnig fframwaith prentisiaeth syml a rhesymol sy’n cyflwyno cyflawniad a chymwysterau dysgwyr mewn ffordd sy’n hawdd ei deall, ei mesur a’i chymharu.

Ei nod yw roi cyfle i unigolion i ddysgu’n fwy hyblyg a galluogi ystod ehangach o sefydliadau, gan gynnwys cyflogwyr, i gael cydnabyddiaeth am eu hyfforddiant.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn ganolfan gymeradwy gydag Edexcel i gyflwyno hyfforddiant mewn Busnes a Gweinyddiaeth.

Cymwysterau Prentisiaeth ar gael;

  • Busnes a Gweinyddiaeth Lefel 2
  • Busnes a Gweinyddiaeth Lefel 3
  • Busnes a Gweinyddiaeth Lefel 4

Gall ein Swyddogion Hyfforddiant profiadol helpu gweithwyr i ddewis y cwrs iawn ar y lefel briodol i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Cyflwynir y cymwysterau hyn yn y gweithle.

Cyflogwyr y gweithiwn gyda nhw;
Rydym wedi sefydlu cysylltiadau gweithio gwych gyda chyflogwyr ledled Cymru yn y Diwydiant Lletygarwch ac rydym yn parhau i rwydweithio gyda chyflogwyr sy’n ystyried cymryd rhan mewn prentisiaethau fel rhan o’u rhaglen datblygu hyfforddiant. Peidiwch â chymryd ein gair amdano yn unig, gweld beth mae ein cyflogwyr yn ei ddweud amdanom ni >>

Recriwtio prentis gyda’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau (AMS)
Mae’r gwasanaeth paru prentisiaethau yn rhoi platfform ar-lein AM DDIM i chi hysbysebu a hyrwyddo’ch cyfleoedd gwaith prentisiaeth o safon. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.

Cyllid Ar Gael
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ar gyfer y rhan fwyaf o gostau hyfforddi’r prentisiaid,  gan eich gadael i dalu am eu cyflog yn unig.

Eisiau dysgu yn Gymraeg? Gallwn ddarparu pob rhaglen brentisiaeth yn ddwyieithog neu yn Gymraeg.