
Disgrifiad Cryno o’r Rôl: Rydym yn edrych i recriwtio Dylunydd Gwe Iau i ymuno â’n Tîm Datblygu a Dylunio’r We. Mae’r gallu i weithio gyda’n cleientiaid yn hyderus ac yn broffesiynol i gynhyrchu gwaith eithriadol yn hollbwysig. Yn ogystal â chreu Gwefannau’n seiliedig ar ddyluniadau a grëwyd gan ein tîm dylunio, bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar agweddau technegol ein contractau marchnata digidol. Bydd y rôl yn amrywiol ac yn gofyn am ystod eang o sgiliau a gallu i weithio dan bwysau fel rhan o dîm. Bydd gallu gweithio yn ôl eich menter eich hun yn hollbwysig.
Bydd Cyfrifoldebau’r rôl yn cynnwys:
- Datblygu Gwefan o ddyluniadau a gyflenwyd, codio CSS a PHP – CS-Cart, Concrete5 a WordPress
- Addasu codau i fodloni gofynion penodol
- Rheoli Gwe-letya.
- Llenwi Gwefannau newydd gyda data yn gywir.
- Golygu delweddau.
- Cynnal Gwefannau presennol yn brydlon mewn ymateb i alw’r cleientiaid.
- Cwrdd â chleientiaid a meithrin ymddiriedaeth a pherthynas.
- Gweithio fel rhan o dîm ar nifer fawr o brosiectau ar yr un pryd.
- Tasgau amrywiol eraill yn y swyddfa fel y bo’n ofynnol.
- Gweithio ar amrywiaeth fawr o wahanol systemau.
Oriau: 37 yr wythnos
Cyflog: Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Dyddiad Cau: 01/07/18
Er mwyn gwneud cais: RHAID i chi greu cyfrif a mewngofnodi trwy’r wefan ganlynol>> https://ams.careerswales.com/Public/Vacancies/View.aspx?vid=42122
Job Features
Job Category | Twf Swyddi Cymru |