Category: Archif 2019

Mae dyfodiad prentisiaid i gwmni dŵr ffynnon a diodydd meddal Radnor Hills o Bowys yn 2017 wedi cael “effaith wirioneddol drawsnewidiol” ar y gweithwyr a thwf y busnes. Mae’r cwmni, sy’n cyflogi 181 o bobl yn Heartsease, ger Trefyclo, wedi gweld twf o 20 y cant yn y busnes yn y ddwy flynedd ddiwethaf, yn cynnwys… Read more »

Mae Andrew Bennett, sydd yn rownd derfynol y Gwobrau, yn benderfynol o beidio â gadael i ddyslecsia na’r ffaith ei fod wedi colli ei olwg mewn un llygad ei rwystro rhag cael gyrfa lwyddiannus. Mae’r Cynghorydd Ailgylchu 51 oed o Abergele wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy, mae’n gweithio ar Brentisiaeth ac mae… Read more »

Trwy ymrwymo i brentisiaethau, mae gwesty, bar a bwyty annibynnol ar lannau Bae Ceredigion yn llwyddo i gynnal gweithlu o 40 o weithwyr medrus a brwd. Nod Gwesty’r Harbourmaster yn Aberaeron, sydd â 13 o ystafelloedd gwely moethus, boutique, yw cynnig gofal ardderchog i’w gwsmeriaid a phrofiad rhagorol i ymwelwyr er mwyn cynnal yr enw… Read more »

NUS Apprentice Extra yw’r cerdyn gostyngiadau i Brentisiaid y DU, gan helpu’ch arian anodd ei ennill i ymestyn ychydig ymhellach! Mae NUS Apprentice Extra yn rhoi gostyngiad ar rai o’ch hoff frandiau, yn y siopau ac ar-lein. Crëwyd y cerdyn gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) ac felly mae’r arian a godwyd yn gwerthu’r cerdyn… Read more »

Mae staff o un o brif ddarparwyr hyfforddiant Cymru wedi rhedeg, cerdded a beicio 1,225 o filltiroedd ers dechrau’r flwyddyn i godi arian at Ymchwil Canser. Mae’r cwmni sydd wedi ennill gwobrau, sydd â swyddfeydd yn y Trallwng, Llanelli, Llanfair-ym-Muallt, Caergybi a Bae Colwyn wedi rhagori ar ei darged o deithio 1,000 o filltiroedd ond… Read more »

Bydd Tom Cave yn teithio ychydig filltiroedd i lawr yr arfordir o’i dref enedigol Aberdyfi y penwythnos hwn i dref glan môr fwy deheuol Aberystwyth ar gyfer Rali Bae Ceredigion Get Connected cyntaf ar ddydd Sul (Medi 8). Y digwyddiad hwn yw’r rali gyntaf erioed i’w chynnal ar ffyrdd cyhoeddus caeedig yng Nghymru ac felly,… Read more »

Mae dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr disglair o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni, sef dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau. Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni… Read more »

Capsiwn y llun: Prentis pen-cogydd Edward Junaidean â chyd-berchnogion y Castle Inn a’r prif ben-cogydd Alison Richards. Mae pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol, coleg neu’r brifysgol ledled Cymru yr haf hwn yn cael eu cynghori i edrych ar amrywiaeth cyffrous o swyddi gwag sy’n cael eu hysbysebu gan ddarparwr hyfforddiant sydd wedi ennill gwobrau.… Read more »

Capsiwn y llun: Y cyfarwyddwr Nicky Van Dijk gyda’r rheolwr Marc Pugh a ddechreuodd weithio yn Happy Horse Retirement Home ar raglen JGW. Mae Cambrian Training, yn y Trallwng, un o brif ddarparwyr dysgu yn y gwaith yng Nghymru, yn annog cyflogwyr sy’n creu cyfleoedd gwaith newydd i ystyried gwneud cais am gymorth oddi wrth… Read more »

Capsiwn y llun: Arwyn Watkins, OBE, llywydd Cymdeithas Goginio Cymru. Mae Cymdeithas Goginio Cymru (CAW) yn lledu ei hadenydd i gynnwys cigyddion crefftus fel aelodau. Pleidleisiodd yr aelodau yn y cyfarfod cyffredinol a gynhelir bob yn ail flwyddyn yn y Trallwng i groesawu’r adran newydd yn dilyn cynnig gan y Llywydd Arwyn Watkins, OBE. Dywedodd… Read more »