Cigydd Cymreig yn ychwanegu medal WorldSkills at ei gabinet tlysau

Aeth Peter Rushforth, un ar hugain oed, â’r fedal aur adref yng nghystadleuaeth gigyddiaeth WorldSkills ar ddydd Sadwrn, 19 Tachwedd 2016.

Yn y gystadleuaeth dau ddiwrnod, a gynhaliwyd yn yr NEC yn Birmingham, bu Rushforth yn brwydro yn erbyn pum cigydd arall o Loegr, Cymru ac Iwerddon mewn pum her anodd. Mae’n gweithio yn Siop Fferm Swans yn yr Wyddgrug. Ar ddiwrnod un gwnaeth y chwe chystadleuydd wynebu heriau’r categorïau barod i’w bwyta, gwneud selsig a barbeciw, yna rownd y blwch dirgel a’r dasg diesgyrnu a thorri ar yr ail ddiwrnod.

“Rwy’n credu ei fod yn gae chwarae gwastad iawn ac roedd gael pawb yr un siawns, ond i gael fy enw ar y sgrin a chael y fedal aur, roeddwn wrth fy modd,” meddai Rushforth. “Mae’n golygu llawer.”

Dyma’r diweddaraf mewn llif o lwyddiannau i’r cigydd ifanc, ar ôl iddo gael ei enw yn Gigydd Ifanc y Flwyddyn Meat Trades Journal yng ngwobrau Siop Cigydd y Flwyddyn ar ddechrau’r mis.

Enillodd Dylan Gillespie, o Clogher Valley Meats, y fedal arian, ac enillodd Daniel Turley, o Allen Aubrey yn Coventry, y drydedd wobr. Hefyd yn cystadlu roedd Hannah Blakey o Goleg Dinas Leeds, James Gracey o Quails of Dromore yn Sir Down a Martin Naan o Kettyle Irish Foods yn Sir Fermanagh.

“Mae’n bwysig iawn bod gennym gystadlaethau fel hyn ar gyfer y bobl ifanc hyn,” meddai Chris Jones o Gwmni Hyfforddiant Cambrian, a drefnodd y gystadleuaeth gigyddiaeth â chymorth oddi wrth grwpiau llywio’r diwydiant. “Mae’n helpu iddynt gynyddu eu set sgiliau ac mae’n helpu i feincnodi’r diwydiant ar gyfer pobl ifanc, fel bod yna bethau iddynt anelu atynt. Gyda chystadleuaeth fel hyn, maent yn gweld beth ddigwyddodd y llynedd ac maent eisiau gwella arno, felly mae’n helpu i’w lefel sgiliau wella bob blwyddyn.

“Roedd y llynedd yn dda iawn, eleni rwy’n meddwl eu bod wedi bod ychydig yn well. Yn sicr maen nhw’n agosach at ei gilydd eleni nag yr oeddent y llynedd.”

Cafodd y gystadleuaeth ei barnu gan Roger Kelsey, prif weithredwr Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwr Cig, Keith Fisher, prif weithredwr yr Institute of Meat ac ymgynghorydd y diwydiant Viv Harvey.

Ymhlith y partneriaid sy’n noddi mae ABP, Fridge Rentals, Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd, Institute of Meat, Hybu Cig Cymru, Cyngor Addysg a Hyfforddiant Bwyd a Diod Cyf ac ymgynghorydd yn y diwydiant Viv Harvey. Meat Trades Journal oedd y partner cyfryngau unigryw.