Cigydd o Gymru, Liam, yn falch o fedal arian WorldSkills UK

Gyda’r ceisiadau’n agor ar gyfer Cystadleuaeth Cigyddiaeth WorldSkills UK ar 2 Mawrth, mae’r cigydd o Gymru, Liam Lewis, yn edrych yn ôl ar y fedal arian a enillodd yn rownd derfynol 2019.

Roedd Liam, 31 oed, sy’n byw yn Winsford ac sy’n gweithio i The Hollies Farm Shop yn Little Budworth, ger Tarporley, yn cystadlu erbyn pum cigydd arall o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn rownd derfynol WorldSkills UK LIVE, a gynhaliwyd yn yr NEC Birmingham.

Ymhlith cystadleuwyr y rownd derfynol oedd enillydd medal arian 2018, Craig Holly, 30 oed o Bont-y-pŵl, sy’n gweithio i Chris Hayman Butchers, Maesycwmer, Hengoed. Mae ef a Liam yn aelodau o Dîm Crefft Cigyddiaeth Cymru, a fydd yn cystadlu yn Her Cigyddion y Byd yn Sacramento, California, ym mis Medi eleni.

Ar ôl cystadleuaeth dynn, dyfarnodd y beirniaid y fedal arian i Liam.

“Rydw i’n teimlo balchder ac anrhydedd mawr o ennill cyflawniad cyfuwch â’r fedal aur,” dywedodd Liam, sy’n dod o Wrecsam yn wreiddiol. “Dyma’r gystadleuaeth fwyaf rydw i wedi cymryd rhan ynddi erioed ac mae’r fedal yn fy rhoi i mewn cwmni da yn Nhîm Crefft Cigyddiaeth Cymru.

“Rydw i wedi cael ymateb gwych gan gwsmeriaid, fy nghyflogwr, fy nheulu a’m ffrindiau. Nid yw’r ffôn wedi stopio canu gyda phobl yn fy llongyfarch i.”

Cwblhaodd cystadleuwyr y rownd derfynol bum tasg dros ddeuddydd o flaen cynulleidfa fyw, a brofodd eu sgiliau i’r eithaf. Dechreuodd yr ail ddiwrnod gyda thasg blwch dirgel heriol a orffennodd gyda’r dasg anoddaf a osodwyd yn y gystadleuaeth hyd yma.

Rhoddwyd top a chloren o gig eidion i’r cigyddion gydag awr i dynnu’r asgwrn a’i drimio, un awr i dorri’r cig ar hyd y cyhyr ac un awr i wneud ac arddangos y cynhyrchion.

“Roedd hi’n her enfawr cael yr arddangosfa wedi’i gorffen mewn pryd, ond roedd pob un ohonom yn yr un cwch a chynhyrchwyd cynhyrchion anhygoel gennym,” ychwanegodd Liam. “Cyd-dynnodd pob un ohonom yn dda iawn ac roedd y cyfeillgarwch yn arbennig.”

Trefnwyd y gystadleuaeth gan y darparwr hyfforddiant arobryn yn y Trallwng, Hyfforddiant Cambrian ac fe’i cefnogwyd gan Grŵp Llywio’r Diwydiant. Y noddwyr oedd y Sefydliad Cig, y Cigyddion Crefft Cenedlaethol, The Worshipful Company of Butchers a Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales.

Bu Liam yn brentis gyda Hyfforddiant Cambrian, ar ôl cwblhau cymwysterau prentisiaeth y Sgiliau Diwydiant Cig a Dofednod a Sgiliau’r Diwydiant Cregynbysgod.

“Mae prentisiaethau’n amhrisiadwy oherwydd maen nhw’n eich paratoi chi am oes,” meddai. “Mae cigyddiaeth wedi newid yn llwyr o beth ydoedd 15 mlynedd yn ôl, yn sgil arloesi cynhyrchion a syniadau newydd, ac mae’n bwysig cadw dysgu a datblygu sgiliau newydd.”

O edrych ymlaen i Her Cigyddion Cymru, dywedodd: “Bydd yn brofiad mor arbennig i gystadlu yn erbyn cigyddion gwych. Mae gan Gymru dîm ifanc, dawnus ac rydym am fynd yno a dangos beth allwn ni ei wneud i’r byd.”

Rhoddodd Chris Jones, pennaeth uned fusnes bwyd a diod Hyfforddiant Cambrian ganmoliaeth i ymroddiad Liam i ddysgu a datblygu ei sgiliau.

“Mae datblygiad Liam yn ystod y ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn anghredadwy,” meddai. “Mae ei aeddfedrwydd, hyder, lefel sgil ac awch i gystadlu wedi dod ymlaen yn aruthrol.

Mae modd i gigyddion sy’n dymuno cystadlu i ddod yn gigydd gorau’r DU yn 2020 gofrestru eu diddordeb NAWR yn: https://www.worldskillsuk.org/champions/national-skills-competitions – mae’r ceisiadau’n agor ar 2 Mawrth – 2 Ebrill yn https://www.worldskillsuk.org/