Cigyddion yn ceisio dod i’r brig yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru

Bydd dwy gystadleuaeth i ddod o hyd i’r cigyddion gorau yng Nghymru yn ganolbwynt Ffair Aeaf Frenhinol Cymru eleni yn Llanfair ym Muallt ym mis Tachwedd.

Bydd Cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru ynghyd â Chystadleuaeth Cigydd Porc Cymru ar raglen brysur y sioe eto, ar ôl ymddangos am y tro cyntaf y llynedd.

Cynhelir y ddwy gystadleuaeth yn y Neuadd Carcasau ar ddydd Llun, Tachwedd 28, a bydd gwobr Cigydd Ifanc Cymru, sydd ar agor i gystadleuwyr o dan 25 oed ar Ionawr 1, 2016, yn cael ei phenderfynu yn y bore. Bydd cystadleuaeth Cigydd Porc Cymru, sydd ar agor i gigyddion o bob oed sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd, yn dilyn yn y prynhawn.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian, darparwr dysgu yn y gwaith sydd wedi ennill gwobrau, yn trefnu’r gystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru, a hefyd yn cydweithio â Keith Brown, prif stiward cystadlaethau cynhyrchu cig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, i redeg Cystadleuaeth Cigydd Porc Cymru ar y cyd.

Wedi’i noddi gan Hybu Cig Cymru, mae cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru yn gam i gystadlaethau ledled y DU, â’r enillydd yn cael y cyfle i ddilyn ôl troed cigyddion dawnus fel Matthew Edwards o Gigyddion Teulu Vaughan, Penyffordd, a gynrychiolodd y DU a llynedd daeth yn enillydd cyntaf Cystadleuaeth Genedlaethol Cigyddiaeth WorldSkills UK.

Yn ogystal â chael y fraint o gael ei (h)enwi yn gigydd ifanc gorau Cymru, bydd yr enillydd yn derbyn siec am £130, bydd enillydd yr ail wobr yn derbyn £70 a bydd y pedwar sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn tlws.

Eleni, bydd y cigyddion ifanc yn cael eu herio i gynhyrchu arddangosfa o gig mewn dwy awr o grwper uchaf cyfan o Gig Eidion Cymreig, coes o Gig Oen Cymreig PGI, bol mochyn cyfan a chyw iâr gyfan.

Yn y gystadleuaeth cigydd porc, a noddir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, bydd y cigyddion yn cael dwy awr i greu arddangosfa arloesol a chreadigol o hanner mochyn Cymreig, gan ddefnyddio naill ai dulliau a phecynnu modern ynteu draddodiadol i hybu Porc Cymreig yn y ffordd orau i ddefnyddwyr.

Bydd yn rhaid i gigyddion yn y ddwy gystadleuaeth ddewis darnau i gynyddu gwerthadwyedd a gwerth y cynnyrch gymaint â phosibl, a bydd y beirniaid yn chwilio am syniadau newydd a chreadigol, techneg torri ac arddangos, gwerth ychwanegol, HACCP a hylendid personol a’r cynnyrch mwyaf posibl o’r carcasau.

Bydd panel o feirniaid yn dewis pedwar ymgeisydd i gyrraedd rownd derfynol bob cystadleuaeth o blith y ceisiadau, y mae’n rhaid eu cyflwyno erbyn dydd Mawrth, Tachwedd 1. Gallwch lwytho ffurflenni gair i lawr o www.cambriantraining.com/competitions.

Mae’n rhaid anfon ceisiadau i’r gystadleuaeth i gigyddion porc at Rhian Davies naill ai trwy e-bost: rhian@rwas.co.uk ynteu trwy’r post i: Cystadleuaeth Cigydd Porc Cymru, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair ym Muallt, Powys, LD2 3SY.

Mae’n rhaid anfon ceisiadau i’r gystadleuaeth i gigyddion ifanc at Katy Godsell naill ai trwy e-bost: katy@cambriantraining.com ynteu trwy’r post i: Katy Godsell, Cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Y Swyddfeydd @ Coed Y Dinas, Y Trallwng, Powys, SY21 8RP.

Dywedodd Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian “Mae’r ddwy gystadleuaeth yma’n darparu’r llwyfan perffaith ar gyfer y cigyddion gorau yng Nghymru iddyn nhw arddangos eu sgiliau mewn digwyddiad pwysig. Anrhydedd mawr yw bod y gorau yng Nghymru yn eich galwedigaeth o ddewis.

“Buaswn yn argymell pobl sy’n ymweld â’r sioe i ddod i wylio’r cigyddion hyn sy’n fedrus iawn yn arddangos eu sgiliau a’u technegau arddangos cig.”

Dywedodd Mr Brown fod y gystadleuaeth Cigydd Porc Cymru wedi cael ei dylunio i roi cyfle i gigyddion o bob oed gael cydnabyddiaeth i’w sgiliau, wrth hybu Porc Cymreig ar yr un pryd.
“Rydym bob amser yn ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol i hyrwyddo Porc Cymreig,” ychwanegodd.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn darparu prentisiaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu â chefnogaeth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555 893, neu Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.