Codie-Jo uchelgeisiol yn goleuo’r diwydiant cigyddiaeth

Mae’r Wyddeles uchelgeisiol yn ei harddegau, Codie-Jo Carr, wedi gosod ei golygon ar ddatblygu gyrfa gwerth chweil mewn cigyddiaeth ac agor ei siop a’i bwyty ei hun yn y dyfodol.

Megis dechrau ar ei gyrfa mae’r ferch 18 oed o Keady, Swydd Armagh, Gogledd Iwerddon, ond mae hi eisoes yn creu argraff ar bobl yn y diwydiant cigyddiaeth gyda’i sgiliau a’i phenderfyniad.

Mae hi’n gweithio i Fred Elliott Family Butchers, Banbridge ac mae hi’n gwneud Hyfforddeiaeth lefel dau mewn Cigyddiaeth yn y Southern Regional College lle mae ei thiwtor Michéal Prunty, yn gigydd cymwys ei hun.

Yn ôl ym mis Tachwedd, roedd Codie-Jo yn un o chwech o gigyddion ledled y DU a wnaeth gystadlu yn rownd derfynol Cystadleuaeth Cigyddiaeth WorldSkills UK yn WorldSkills UK LIVE, a gynhaliwyd yn yr NEC Birmingham.

Er nad enillodd y gystadleuaeth, creodd ei sgiliau a’i ffocws fel merch 17 oed argraff ar y beirniaid. Wedi iddi gael blas ar y rownd derfynol, mae hi’n gobeithio cymhwyso i gael ail gynnig ar y gystadleuaeth eleni.

“Wnes i fwynhau’r gystadleuaeth yn fawr iawn a dysgais gymaint wrth y rhai eraill yn y rownd derfynol ac o’u harddangosiadau,” meddai Codie-Jo. “Roedd y profiad cyfan o gystadlu yn yr NEC yn wych ac roedd y rownd derfynol yn brysur, gan roi rhuthr mawr o adrenalin.

“Roeddwn i’n nerfus iawn cyn hynny, ond roedd pawb yn y rownd derfynol mor hyfryd ac nid oedd yn teimlo fel cystadleuaeth oherwydd cyd-dynnodd pawb yn dda iawn ac roedd yr amgylchedd yn wych.

“Mae cystadlu wedi rhoi hwb i’m hyder ac rwy’n credu fy mod i wedi datblygu ers y gystadleuaeth. Fy nod eleni yw dysgu mwy o sgiliau a gwneud yn well.

“Mae cwsmeriaid wedi fy llongyfarch i ar gyrraedd y rownd derfynol ac wedi dweud ei bod hi’n braf gweld merch yn gigydd.”

Mae hi’n awyddus i weld mwy o ferched yn dod yn gigyddion. “Er bod y diwydiant hwn i fechgyn fel rheol, nid oes dim byd o gwbl i stopio merched rhag dewis cigyddiaeth yn yrfa,” meddai

“Rydw i am brofi ei bod hi’n bosibl i ferched fod yn gigyddion. Fy nghyngor i yw mynd amdani a pheidio â gadael i’r ffaith mai diwydiant a reolir gan ddynion ydyw i’ch dal chi’n ôl. Eich dyfodol chi, nid nhw ydyw.”

Etifeddodd Codie-Jo ei hegwyddor gweithio gan ei thad sy’n rhedeg busnes bwyd adwerthu a chyfanwerthu bach, Carr’s Elite Foods. Mae hi wedi eisiau gweithio yn y diwydiant bwyd erioed ond nid oedd hi’n siŵr pa faes oedd yn gweddu orau iddi hyd nes iddi dreulio wythnos o brofiad gwaith tra’r oedd yn yr ysgol ar gownter cigydd mewn archfarchnad ac roedd hi ar ben ei digon.

Ni chafodd ddiagnosis o ddyslecsia tan yn nes ymlaen yn yr ysgol, ond aeth ati i wneud yn dda yn ei chymwysterau TGAU ac mae wedi ffynnu mewn sgiliau galwedigaethol. “Rydw i wrth fy modd yn dysgu gwahanol bethau ac o ba rannau o’r anifail mae gwahanol doriadau cig yn dod”, esboniodd Codie-Jo. “Rydych chi’n cael syniadau am gynhyrchion newydd nad oes pobl wedi’u gweld o’r blaen.”

Diolchodd i’w thiwtor Micheál Prunty, ei chyflogwr a’i rhieni am eu cefnogaeth.

Esboniodd Micheál iddo gynnwys Codie-Jo yn rownd Cystadleuaeth Cigyddiaeth WorldSkills UK yng Nglasgow fel “ymarfer hyfforddi” ond aeth ati i guro cigyddion llawer mwy profiadol i gymhwyso am y rownd derfynol.

“Mae hi’n mynd i roi cynnig ar ambell i gystadleuaeth arall eleni, ond mae’n gwybod mae ei chymwysterau sy’n dod yn gyntaf,” ychwanegodd. “Mae hi’n ferch benderfynol iawn, sy’n gweithio’n galed ac sydd am ddod â chigyddiaeth i fusnes y teulu.”

Gan ei bod yn canolbwyntio cymaint ar ei gyrfa, mae hi eisoes wedi datblygu cynllun datblygiad personol gydag ef, gan blotio cymwysterau lefel tri a phedwar mewn Cynhyrchu Bwyd a Rheolaeth Hylendid Bwyd.

“Nid oes gennyf amheuaeth y bydd hi’n cyrraedd ei nod,” dywedodd. Yn sicr, mae ganddi’r awch a’r gallu i oleuo’r diwydiant.

“Mae hi hefyd am helpu hyrwyddo merched yn y diwydiant ac mae ei llwyddiant hi eisoes wedi annog dwy ferch i holi am ein cwrs cigyddiaeth eleni.”

Caiff Cystadleuaeth Cigyddiaeth WorldSkills UK ei threfnu gan y darparwr hyfforddiant arobryn yn y Trallwng, Hyfforddiant Cambrian, a’i chefnogi gan Grŵp Llywio’r Diwydiant. Y partneriaid noddi a chefnogi yw’r Sefydliad Cig, The National Craft Butchers, The Worshipful Company of Butchers, Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales ac FDQ.

Mae modd cofrestru ar-lein ar gyfer Cystadlaethau WorldSkills UK 2020 tan 2 Ebrill yn www.worldskillsuk.org . I gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth cigyddiaeth, ewch i https://www.worldskillsuk.org/champions/national-skills-competitions/find-a-competition/health-hospitality-and-lifestyle/butchery

Mae disgwyl i’r rowndiau rhanbarthol ddigwydd ar draws y wlad, rhwng mis Mai a Mehefin yng Ngogledd Iwerddon, Yr Alban, Canolbarth Lloegr a De Lloegr. Bydd y chwe chigydd uchaf eu sgôr ledled y DU yn gymwys am Rownd Derfynol.

Genedlaethol y DU yn yr NEC, Birmingham o 19-21 Tachwedd, 2020 fel rhan o WorldSkills UK Live.

Gofynnir i unrhyw fusnes neu sefydliad sy’n dymuno noddi’r gystadleuaeth eleni gysylltu â Katy Godsell yn Hyfforddiant Cambrian katy@cambriantraining.com neu Ffonio: 01938 555893 opsiwn 4.

Picture caption:

Codie-Jo Carr ar waith yng Nghystadleuaeth Cigyddiaeth WorldSkills UK llynedd.

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar y Ffôn: 01938 555893 e-bost:katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818.