Craig yn cael gwared ar y cystadleuwyr eraill i fod yn Gigydd y Flwyddyn Cymru

Cigydd y Flwyddyn Cymru newydd yw Craig Holly, rheolwr cynorthwyol Cigyddion Neil Powell yn Y Fenni.

 

Mae Holly, 29, yn ychwanegu’r teitl o fri at ei restr o anrhydeddau, sy’n cynnwys Cigydd Porc y Flwyddyn Cymru yn 2016, yn dilyn rownd derfynol agos iawn yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair ym Muallt ar ddydd Mawrth.

 

Nifer fach o bwyntiau’n unig oedd rhwng y tri chigydd yn y rownd derfynol lle roedd y sgoriau’n uchel. Chris Lewis o Fwydydd Filco, Llanilltud Fawr a Jon Whittington, cigydd llawrydd o’r Trallwng, a gymerodd le’r pencampwr presennol Dan Allen-Raftery, o Fwydydd Randall Parker, Llanidloes, oedd y goreuon ond un. Gwnaeth Lewis a Whittington ymddangosiad cyntaf trawiadol yn y gystadleuaeth.

 

Ar ôl cael ei guro gan Allen Raftery llynedd a dod yn ail yn rownd derfynol Cigyddiaeth WorldSkills UK yn Birmingham, roedd Holly wrth ei fodd i gael ei enwi’n bencampwr.

 

“Rwy’n falch iawn i ennill y gystadleuaeth,” meddai ar ôl cael ei dlws a gwobr ariannol £100 ddoe. “Roedd yn gystadleuaeth agos a chredais fod arddangosfeydd y ddau gigydd arall yn neis iawn. Roedd ganddynt syniadau da iawn.”

 

Er gwaethaf cystadlu yn rownd derfynol Cigyddiaeth WorldSkills UK llai na bythefnos yn gynt, newidiodd ei gynhyrchion yn llwyr ar gyfer Cigydd y Flwyddyn Cymru.

 

“Nid oeddwn eisiau mynd i’r gystadleuaeth i wneud rhywbeth roeddwn eisoes wedi’i wneud,” eglurodd Holly. “Mae’n well gen i herio fy hun ac roedd popeth y gwnes i’n hollol newydd.

 

“Mae cystadlu yn WorldSkills UK wedi fy ngwneud llawer yn lanach fel cigydd ac rwy’n cymryd mwy o ofal wrth dorri esgyrn. Mae hefyd wedi rhoi’r hyder i mi roi cynnig ar syniadau newydd.

 

“Bellach rwy’n bwriadu gweithio’n galed i gyrraedd rownd derfynol WorldSkills eto’r flwyddyn nesaf. Fy uchelgais yw teithio a chymryd rhan mewn datblygiad cynhyrchion newydd fel cigydd.

 

“Mae pawb wedi gweld sut i ddiesgyrnu ysgwydd o gig oen, ond rwyf eisiau cyflwyno syniadau gwahanol sy’n dangos cigyddiaeth fel crefft. Mae cynulleidfa iau eisiau cael cynhyrchion newydd nad ydynt wedi’u gweld o’r blaen.

 

“Rwy’n ceisio gwneud rhywbeth gwahanol â labelu, gan enwi cynhyrchiol ar ôl ffilmiau’r ’80au a’r ’90au, fel ‘Lamb Shank Redemption’ a ‘Reservoir Hogs’.”

 

Mae cystadleuaeth Cigydd y Flwyddyn Cymru wedi’i noddi gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, Hybu Cig Cymru a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ac mae’n gam pwysig at gystadlaethau ledled y DU.

 

Bydd Holly yn cael y cyfle i ddilyn ôl troed cigyddion dawnus fel Peter Rushforth a Matthew Edwards, sydd wedi cynrychioli’r DU ac sydd wedi cynrychioli’r DU ac ennill rownd derfynol Cigyddiaeth WorldSkills UK.

 

Canmolodd Chris Jones, pennaeth uned fusnes bwyd a diod Cwmni Hyfforddiant Cambrian, y tri a gyrhaeddodd y rownd derfynol: “Roedd y sgorio terfynol yn uchel iawn ac mae gan y tri chigydd ethos gwaith da – glân, taclus, trefnus a medrus.

 

“Byddech chi byth yn gwybod ei bod yn gystadleuaeth gyntaf Chris a Jon. Roedden nhw’n edrych fel gweithwyr proffesiynol profiadol ac roedd yn rownd derfynol ardderchog, agos.”

 

Wynebodd y rheiny a gyrhaeddodd y rownd derfynol wir brawf o’u sgiliau cigyddiaeth dros dair tasg o flaen cynulleidfa ym Mhafiliwn Hyfforddiant Cambrian ar faes y Sioe Frenhinol.

 

Byddant yn cael awr i dorri coes porc, 70 munud i greu cynnyrch sy’n barod i’r gegin ar gyfer cwsmeriaid o flwch dirgel o gynhwysion a 90 munud i greu arddangosfa cig barbeciw sy’n gyffrous yn weledol gan ddefnyddio cyw iâr cyfan, ochr orau Cig Eidion Cymreig, coes Cig Oen Cymreig ac ochr orau porc.

 

Capsiynau’r lluniau:

 

Craig Holly yn derbyn tlws Cigydd y Flwyddyn Cymru oddi wrth y beirniad Steve Vaughan gyda Kirstie Jones, swyddog datblygu’r farchnad Hybu Cig Cymru a Chris Jones, Chris Jones, Pennaeth uned fusnes bwyd a diod Cwmni Hyfforddiant Cambrian.