Cwmni o Orllewin Cymru ar restr fer am wobr prentisiaeth genedlaethol

Mae un o bacwyr adwerthu mwyaf y DU, sy’n cyflogi 600 o bobl yng Ngorllewin Cymru, wedi’i gynnwys ar restr fer am wobr prentisiaeth genedlaethol fawreddog.

Mae Dunbia, sydd â lleoliad yn Llanybydder yn Sir Gaerfyrddin, yn rownd derfynol categori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2014 a bydd yn mynychu seremoni wobrwyo uchel ei phroffil yng ngwesty’r Celtic Manor Resort, Casnewydd ar ddydd Gwener, 31 Hydref.

Trefnir y gwobrau, a rennir yn 13 categori, ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Noddir y gwobrau gan Pearson PLC gyda chefnogaeth ei bartner yn y cyfryngau, Media Wales i arddangos rhagoriaeth mewn datblygiad sgiliau yng Nghymru gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maen nhw’n ffordd wych hefyd o werthuso hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn ffactor llawn cymhelliant gwych ar gyfer unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Dunbia’n ymfalchïo mewn cyflogi staff sydd wedi’u hyfforddi’n dda ond sydd â’r gallu hefyd i gefnogi twf y busnes yn ei gyfleusterau yng Nghymru.

Cyfloga’r cwmni rhyw 4,000 o bobl ar hyd a lled y DU, y mae 600 ohonynt wedi’u cyflogi yn Llanybydder, sy’n cynnwys 32 o brentisiaid. Cred Dunbia y caiff ei dwf a’i broffidioldeb ei gefnogi gan ansawdd a hyfforddiant ei brentisiaid.

“Deallwn er mwyn bod yn fusnes llwyddiannus gyda’r potensial i dyfu a darparu’r cynhyrchion ansawdd gorau i’n cleientiaid, mae’n rhaid wrth weithlu wedi’i hyfforddi’n dda ac mae prentisiaid yn ganolig i hyn” meddai Kay Lewis, rheolwr dysgu a datblygu Dunbia.

“Cyflwynwyd ein Rhaglen Brentisiaeth i gefnogi’n hamcan o ddod yn ganolfan ragoriaeth ac, er 2005, rydym wedi buddsoddi’n helaeth ynddi.”

Y darparwr dysgu, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sy’n cyflwyno rhaglen Brentisiaeth y cwmni ac, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae 53 o brentisiaid wedi pasio trwyddi.

“Gwelwn fod y prentisiaid sydd wedi bod trwy’r rhaglen yn llawer mwy uchel eu cymhelliant a medrus. Er enghraifft, dechreuodd ein rheolwr hylendid ei yrfa fel gweithredwr cyffredinol a symudodd ymlaen i fod yn weithredwr hylendid, yn oruchwyliwr ac mae bellach yn rheolwr ar ein nau safle yng Nghymru”, ychwanegodd Kay.

Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Prentisiaethau yw un o’r ffyrdd mwyaf ymarferol a chost effeithiol i fusnes adeiladu gweithlu medrus. Gall prentis ddysgu’r sgiliau y mae ar gyflogwr eu hangen i gadw i fyny gyda’r datblygiadau yn eu diwydiant a chyflawni gofynion cwsmeriaid y gwasanaeth. Rydw i wrth fy modd fod cwmnïau fel Dunbia’n rhannu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyfforddiant galwedigaethol.”

Mae disgwyl i dros 300 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru fynychu’r seremoni wobrwyo uchel ei phroffil lle bydd y gwesteion yn gwledda gyda chogyddion Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.