Croeso i Wasanaethau Cynhadledd y Ganolfan Ragoriaeth, lleoliad newydd cyffrous ar gyfer cynadleddau, seminarau, cyfarfodydd a chyrsiau yn Nyffryn Hafren hardd ar gyrion tref farchnad hynafol y Trallwng.
Mae datblygiad unigryw’r Ganolfan Ragoriaeth yn cynnwys dwy ystafell, ill dwy’n helaeth ac â goleuni naturiol, sy’n gallu darparu lle ar gyfer hyd at 50 o gynrychiolwyr mewn amrywiaeth o fformatau eistedd.
Mae gan y lleoliad theatr darlithio unigryw, ynghyd â chyfarpar sy’n cynnwys mynediad i’r Rhyngrwyd, Bwrdd deallus rhyngweithiol, taflunydd digidol, bwrdd gwyn a siartiau troi.
Mae pecynnau deniadol i gynrychiolwyr ar gael isod. Gellir addasu pob cynhadledd, seminar, cyfarfod neu gwrs i ddiwallu’ch anghenion penodol ac mae parcio am ddim ar gael ar y safle. Mae’r Ganolfan Ragoriaeth hefyd yn cynnig amrywiaeth o becynnau arlwyo sydd at ddant pawb.
Ystafell Gyfarfod
Hyd at 15 o gynrychiolwyr
Cost llogi’r ystafell am ddiwrnod cyfan £65.00 + TAW Coffi / Te £20.00 (Gr?p)
Cost llogi’r ystafell am 0.5 diwrnod £45.00 + TAW Coffi / Te £10.00 (Gr?p)
Hyd at 25 o gynrychiolwyr
Cost llogi’r ystafell am ddiwrnod cyfan £85.00 + TAW Coffi / Te £30.00 (Gr?p)
Cost llogi’r ystafell am 0.5 diwrnod £50.00 + TAW Coffi / Te £20.00 (Gr?p)
Hyd at 50 o gynrychiolwyr
Cost llogi’r ystafell am ddiwrnod cyfan £100.00 + TAW Coffi / Te £50.00 (Gr?p)
Cost llogi’r ystafell am 0.5 diwrnod £ 60.00 + TAW Coffi / Te £40.00 (Gr?p)
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Bwydlen 1 £5.75 + TAW fesul unigolyn
- Detholiad o frechdanau ar fara gwyn a brown
- Creision
- Sudd ffrwythau
Bwydlen 2 £8.25 + TAW fesul unigolyn
- Detholiad o frechdanau ar fara gwyn a brown
- Creision
- Detholiad o gacennau cartref
- Basged o ffrwythau
- Sudd ffrwythau
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Gwasanaethau sydd ar gael: Bwrdd Gwyn, Siart Troi, Bwrdd deallus rhyngweithiol, Gliniadur a mynediad at y rhyngrwyd
Cyfarwyddiadau: I gael cyfarwyddiadau i’n Canolfan Ragoriaeth, gallwch lwytho’r cyfarwyddiadau i lawr yma >> neu weld map Google rhyngweithiol yma >>
I gael manylion pellach cysylltwch â Sarah Wilde yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian, Y Swyddfeydd @ Coed-y-Dinas, Y Trallwng, Powys SY21 8RP.
Ffôn: 01938 555893 | E-bost: sarah@cambriantraining.com