Cymru yn cystadlu yn Her Cigydd y Byd yn UDA

Capsiwn y llun: Steve Vaughan, rheolwr Tîm Crefft Cigyddiaeth Cymru.

Mae Cymru’n gobeithio anfon tîm o gigyddion dawnus i Her Cigydd y Byd yn yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf y flwyddyn nesaf.

Cynhelir y gystadleuaeth bob dwy flynedd, a bydd cystadleuwyr o 16 o wledydd o bedwar ban byd yn cymryd rhan, yn Sacramento, Califfornia ym mis Medi 2020. Iwerddon sy’n amddiffyn eu teitl fel enillwyr.

Cafodd Tîm Crefft Cigyddiaeth Cymru ei ffurfio yn ddiweddar, a bydd yn cael ei reoli gan y cigydd sydd wedi ymddeol a’i beirniad cystadleuaeth profiadol Steve Vaughan o Benyffordd. Croesawyd y tîm yr wythnos hon fel adran newydd o Gymdeithas Goginio Cymru (CAW) yng nghyfarfod bob dwy flynedd y pen-cogyddion yn y Trallwng.

Bydd Craig Holly, o Gigyddion Neil Powell, y Fenni, yn cynrychioli Tîm Crefft Cigyddiaeth Cymru ar Bwyllgor Cenedlaethol CAW.

Mae Her Cigydd y Byd yn cynnwys sawl elfen â chystadlaethau ar gyfer timau o chwe chigydd, cigyddion ifanc a chigyddion dan brentisiaeth. Mae gwobrau unigol hefyd am y gorau o ran porc, cig oen, cig eidion, dofednod a chynhyrchion a selsig eidion, porc a gourmet.

Yn ogystal, bydd y beirniaid yn dewis chwe chigydd o’r holl ymgeiswyr ar gyfer gwobr tîm byd ‘y gorau o’r goreuon’.

Yn ystod y gystadleuaeth, bydd y timau’n cael tair awr a 15 munud i drin ochr o borc, ochr o gig eidion, oen cyfan a phum iâr. Yna caiff y cig ei gyflwyno mewn arddangosfa.

Capten Tîm Crefft Cigyddiaeth Cymru yw Peter Rushforth o Ernest W. Edge a’i fab, Handbridge, Caer, cyn enillydd cystadlaethau Cigyddiaeth WorldSkills UK a Siop Cigydd y Flwyddyn yng Nghymru. Bydd yn hedfan i Sacramento ym mis Medi ar gyfer Rhediad y Capteiniaid, sydd wedi’i gynllunio i baratoi timau rhyngwladol ar gyfer cystadleuaeth y flwyddyn nesaf.

Mae aelodau’r sgwad yn cynnwys Craig Holly, Tommy Jones, Jones Brothers, Wrecsam, Matt Edwards, Coleg Cambria, Cei Connah, Dan Raftery, Bwydydd Randall Parker, Llanidloes a Liam Lewis, Siop Fferm yr Hollies, Tarporley.

Mae disgwyl i fwy o gigyddion ymuno â’r sgwad dros y misoedd nesaf. Mae’r tîm cymorth yn cynnwys Chris Jones, pennaeth yr uned fusnes bwyd a diod a’r swyddog hyfforddi Frank Selby, y ddau o Gwmni Hyfforddiant Cambrian, y Trallwng, sy’n trefnu cystadlaethau Cigydd y Flwyddyn Cymru a Chigyddiaeth Worldskills UK.

Eglurodd Chris Jones fod Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi bod yn chwilio am gyfle i ddatgelu cigyddion dawnus o Gymru i gystadlaethau byd-eang ers sawl blwyddyn.

“Nid yw cyfleoedd i Gymru gystadlu yn Her Cigydd y Byd yn digwydd yn aml iawn,” ychwanegodd. “Bydd y gystadleuaeth hon yn rhoi llwyfan i’n cigyddion gystadlu yn erbyn y goreuon yn y byd.”

Meddai Mr Vaughan: “Rwy’n edrych ymlaen at reoli’r cigyddion hyn sy’n ddawnus iawn ac rwy’n meddwl bod gennym gyfle i adeiladu tîm da. Mae pob aelod wedi gwneud yn dda mewn cystadlaethau o’r safon uchaf ac yn gwybod sut i gystadlu ar y lefel uchaf.”

Mae wrth ei fodd bod cigyddion o Gymru bellach yn cael eu dwyn ynghyd fel adran o CAW. “Mae Tîm Coginio Cymru yn gyfarwydd â chystadlu ar y lefel uchaf o amgylch y byd a byddant yn gallu trosglwyddo eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad i aelodau ein tîm,” ychwanegodd.

“Byddwn yn gofyn am eu cyngor a’u harweiniad am gynnyrch, garnaisiau, sawsiau a sesnin.”

Datgelodd fod posibilrwydd y gallai Tîm Cigyddiaeth Cymru gystadlu yng Nghystadleuaeth newydd y Bedair Gwlad yn Iwerddon ym mis Hydref, ond nid yw’r cynlluniau wedi’u cwblhau eto. Yn y cyfamser, mae’r tîm yn chwilio am gefnogaeth oddi wrth noddwyr i alluogi’r cigydd i chwifio baner Cymru mewn cystadlaethau.

Dywedodd Llywydd CAW, Arwyn Watkins, OBE, sydd hefyd yn Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ei fod yn falch iawn o groesawu’r cigyddion crefft i CAW oherwydd nad oedd ganddynt “gartref naturiol yng Nghymru” a’u bod ond yn sefydlu eu hunain fel tîm cenedlaethol.
Roedd o’r farn bod nifer o fanteision o ran datblygiad proffesiynol parhaus i’r ddwy ochr o ran cael cigyddion a chogyddion crefft Cymreig yn yr un gymdeithas.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag Arwyn Watkins, OBE, llywydd Cymdeithas Goginio Cymru, ar Ffôn: 01938 555893 neu Duncan Foulkes, swyddog cyhoeddusrwydd, ar Ffôn: 01686 650818.