Cynllun Hyfforddi SHEA (Gwastraff ac Ailgylchu)

Datblygwyd Pasbort SHEA a adwaenir hefyd fel y Cynllun Ymwybyddiaeth Diogelwch, Iechyd ac Amgylcheddol (Safety, Health and Environmental Awareness) gan y Gofrestr Sgiliau Ynni a Gwasanaethau ar y cyd â’r diwydiant ailgylchu a gwastraff.

Dyluniwyd y cynllun pasbort ar gyfer pobl sydd angen mynediad i safleoedd gweithredol, yn barhaol a dros dro, gan gynnwys pob lefel o staff megis gweithredwyr, goruchwylwyr a rheolwyr yn y diwydiant Gwastraff ac Ailgylchu.

Fe’i dyluniwyd i ddarparu tystiolaeth ar y safle fod unigolyn wedi dangos lefel briodol o wybodaeth ac ymwybyddiaeth i faterion ymwybyddiaeth iechyd, diogelwch ac amgylcheddol.
Mae cyflawni cerdyn Pasbort SHEA (Rheoli Gwastraff) yn cymryd un diwrnod o hyfforddiant ac yn para tair blynedd o’r dyddiad cyhoeddi.

Achrediad
Ar ôl cwblhau’r cynllun hwn yn llwyddiannus, bydd unigolion yn cael eu cofrestru ar y gronfa ddata Cofrestr Sgiliau Ynni a Gwasanaethau a byddant yn cael cerdyn ffotograff.
Mae Cynllun SHEA (rheoli gwastraff) yn gysylltiedig hefyd â’r Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu a gydnabyddir yn genedlaethol.

STRWYTHUR Y CWRS

Mae’r cwrs undydd hwn yn cynnwys wyth modiwl safonol sy’n berthnasol ar draws y diwydiannau gwasanaethau ac mae hefyd yn cynnwys dau sy’n benodol i’r diwydiant gwastraff ac ailgylchu. Anogir unigolion ar y cwrs hwn i ddefnyddio’u profiad a’u gwybodaeth am faterion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol y gweithle.

Mae papur asesu amlddewis byr yn dilyn y cyflwyniadau byrion i bob modiwl. Marc llwyddo’r asesiad ar gyfer y papurau hyn yw 80%.

Cael eich cerdyn Cofrestr Sgiliau Ynni a Gwasanaethau.
Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant hwn yn llwyddiannus, byddwn yn rhoi nodyn esboniadol i chi ac yn eich cofrestru gyda’r Gofrestr Sgiliau Ynni a Gwasanaethau. Bydd cerdyn SHEA (rheoli gwastraff) yn cael ei ddosbarthu ymhen 28 diwrnod.

Ffioedd
Mae’r cwrs yma yn costio £75.00 + VAT dyladwy gyda arian neu siec. Sicrhewch eich bod wedi cadw’ch lle trwy gysylltu a Heather Martin ar: heather@cambriantraining.com