CIEH Egwyddorion Trafod â Llaw
Mae’r cymhwyster hwn yn cyd-fynd â’r Dyfarniad Lefel 2 mewn Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle. Mae wedi’i anelu at y sawl sy’n trafod â llaw yn y gwaith, mae’n cyflwyno ymgeiswyr i risgiau trafod â llaw a’r dulliau rheoli sydd ar gael.
Pwy sydd angen y cymhwyster hwn?
Pob gweithiwr sy’n trafod deunyddiau, blychau, post a phecynnau, gan gynnwys gweithwyr diwydiannol a swyddfa.
Pam mae’r hyfforddiant hwn yn bwysig?
Mae’r cymhwyster hwn yn cyflwyno ymgeiswyr i’r peryglon a’r risgiau sydd ynghlwm â thrafod â llaw ac yn amlinellu beth i ddisgwyl o asesiad trafod â llaw. Bydd yn galluogi gweithwyr i gyfrannu at ddatblygu dulliau a thasgau trafod â llaw mwy diogel yn y gweithle.
Canlyniadau Dysgu
- Adnabod peryglon trafod â llaw
- Adnabod y risgiau sydd ynghlwm a’r dulliau rheoli sydd ar gael
- Adnabod beth i ddisgwyl o asesiad trafod â llaw
Manylion y Cwrs
Parhad
Asesiad rhaglen hanner diwrnod yw’r cwrs hwn sy’n cynnwys arholiad amlddewis.
Mae’r cwrs yn 3 awr a hanner o hyd (fwy neu lai)
Mae’r cwrs naill ai’n rhedeg o 9.00am tan 12.30pm neu 12.30pm tan 4.00pm.
Lleoliad
Sylwch:Bydd lleoliad eich cwrs yn cael ei ddatgan mewn unrhyw lythyrau rydym yn eu cael mewn perthynas â’ch presenoldeb ar y cwrs hwn.
Cysylltwch â Debbie Thomas ar: E-bost: deborah@cambriantraining.com i gael rhagor o wybodaeth
Ffioedd
Cost y cwrs hwn yw £30 + TAW a delir gydag arian parod, siec neu drwy paypal ar y ddolen isod:
Dewiswch y cwrs cywir y dymunwch ei ddilyn a sicrhewch eich bod wedi cadw’ch lle trwy gysylltu â Debbie Thomas ar; E-bost: deborah@cambriantraining.com