Dangos Cig Oen Cymreig o’r safon uchaf wrth i’r cigyddion gorau fynd benben â’i gilydd

Wrth i’r Llewod baratoi am eu gornest yn erbyn cewri’r byd rygbi, sef Crysau Duon Seland Newydd, mae rhai o gigyddion gorau Prydain ac Iwerddon wedi bod yn gweithio’n wrol hefyd, yn cystadlu am le yn rownd derfynol cystadleuaeth gigyddiaeth fawreddog Worldskills UK.

Mae cystadleuwyr ar draws y pedair gwlad wedi dod at ei gilydd ac wedi cael ystod o heriau cigyddiaeth mewn rowndiau yn Perth, Leeds, Newry a Chanolfan Ragoriaeth Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng. Bydd y chwe chigydd â’r sgorau uchaf o’r rowndiau’n symud ymlaen i’r rownd derfynol yn yr NEC Birmingham ym mis Hydref.

Ac, yn ddi-os, mae’r cigyddion gorau wedi gweithio gyda’r cynhwysion gorau,  gan fod y corff Cymreig Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales (HCC) wedi mynd i bartneriaeth gyda threfnwyr yr ornest i sicrhau bod ysgwydd o Gig Oen Cymreig PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) yn rhan o’r her i bob cystadleuydd ym mhob rownd.

“Rydym yn falch o barhau â’n hymwneud â chystadleuaeth gigyddiaeth Worldskills UK trwy noddi a phrynu’r Cig Oen Cymreig PGI ar gyfer pob rownd eleni,” meddai Kirstie Jones, Swyddog Datblygu Marchnata HCC.

Ychwanegodd Kirstie, “Mae HCC yn ymroi i gefnogi’r sector cigyddiaeth a phrosesu sydd mor dyngedfennol bwysig i’n diwydiant. Yn ogystal â chefnogi busnesau cigyddiaeth y stryd fawr trwy’n Clwb Cigyddion Cig Oen Cymreig PGI a Chig Eidion Cymreig PGI, cefnogwn hyfforddiant a rhagoriaeth yn y sector hefyd.”

“Mae cigyddion ifanc Cymru’n llwyddo yn nigwyddiadau mawreddog Worldskills,” esboniodd Kirstie. Dros y ddwy flynedd diwethaf, Matthew Edwards a Peter Rushforth, ill dau’n hanu o ardal Wrecsam, sydd wedi cipio’r wobr uchaf yn y rownd derfynol, ac ers hynny, maen nhw wedi adeiladu gyrfaoedd addawol yn y diwydiant ac wedi cymryd rhan yn ymgyrchoedd hyrwyddo HCC.

“Rwy’n falch y cafodd holl gystadleuwyr eleni’r cyfle i arddangos eu sgiliau gydag ysgwydd o Gig Oen Cymreig PGI o’r safon uchaf. Roedd y safon yn eithriadol, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed pwy fydd yn cyrraedd y rownd derfynol.”

Dywedodd Katy Godsell o Gwmni Hyfforddiant Cambrian, sy’n trefnu’r gystadleuaeth ar gyfer Worldskills UK: “Bu cam rowndiau’r gystadleuaeth eleni’n agos iawn ac rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddi enwau’r sawl yn y rownd derfynol eleni. Fel darparwr hyfforddiant Cymraeg ein hunain, roedd hi’n anrhydedd mawr i weld holl gystadleuwyr cigyddiaeth Worldskills yn gweithio gyda Chig Oen Cymreig safon uchel ar draws y DU a hoffwn ddiolch i HCC am eu cefnogaeth.”

Am fwy o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg HCC ar 01970 625050 / press@hccmpw.org.uk