Polisi Diogelu – amgylchedd diogel i bawb

Fel un o brif ddarparwyr prentisiaethau a hyfforddiant yng Nghymru, mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn ymroi i ddarparu amgylchedd diogel ar gyfer ein prentisiaid, gweithwyr a phobl eraill sydd ynghlwm â’n gwaith o ddydd i ddydd.

Fel y mae’n harwyddair yn datgan, rydym am i’n prentisiaid a’n dysgwyr ‘Ei freuddwydio, Ei Ddysgu, Ei Fyw.” Rhaid iddynt ddiwallu eu hangerdd a’u huchelgais heb ofn, gofid na rhagfarn, dim ots beth yw eu rôl na beth maen nhw’n ei wneud.

Mae ein Polisi Diogelu’n gosod ein hymrwymiad a’n cyfrifoldeb i sicrhau bod pawb sydd ynghlwm â’r prentisiaethau, Twf Swyddi Cymru, a’r cyfleoedd cyflogadwyedd a ddarparwn yn deall eu cyfrifoldebau ar gyfer diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl, dim ots beth yw eu rôl na ble maen nhw’n gweithio yn y sefydliad

 

  Manylion Cyswllt E-bost

  Gwybodaeth am Atal Eithafiaeth a Radicaleiddio ar gyfer Dysgwyr a Chyflogwyr

  Polisi Atal Eithafiaeth a Radicaleiddio

Felly sut mae gwneud hyn?

Fel rhan o’n dull recriwtio a hyfforddi, rhaid i bob un gweithiwr yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian ddeall pwysigrwydd ein Polisi Diogelu.

Eu rôl nhw yw ysbrydoli dysgwyr a datblygu eu sgiliau a’u cyfleoedd cyflogadwyedd ar hyd y ffordd, gan sicrhau eu diogelwch a’u lles ar yr un pryd.

“Mae gan bob un ohonom ddyletswydd gofal i ddiogelu a hyrwyddo lles a gwella ymwybyddiaeth y sbectrwm lles ehangach, yn benodol materion pobl ifanc mewn cymdeithas” – Polisi Diogelu.

Mae ein proses recriwtio’n cynnwys Archwiliadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac, yn dilyn hynny, sesiwn cynefino a hyfforddiant sy’n cynnwys dealltwriaeth o’u cyfrifoldebau dan ein Polisi Diogelu.

“Nod y polisi yw sicrhau eich bod yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau chi a phobl eraill ac yn eu deall, arwyddion y gallai fod pryder diogelu, ynghyd â gweithdrefnau adrodd ar gyfer pob mater diogelu” – Polisi Diogelu.

Bydd yr holl swyddogion hyfforddiant yn ymgymryd â chwrs a hyfforddiant parhaus ar Ddiogelu. Mae hyn hefyd yn cynnwys materion diogelu ehangach fel radicaleiddio, materion iechyd meddwl, perthnasoedd cadarnhaol a chadw’n ddiogel ar y rhyngrwyd.

Yn anad dim, rydym am i’n prentisiaid a’n dysgwyr ar hyd a lled Cymru gael y cyfle gorau posibl i ddysgu a datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd ym mha bynnag sector neu ddiwydiant maen nhw’n rhan ohono.

Gyda’n gilydd, gallwn ymgysylltu, ysbrydoli a llwyddo.