Focaccia rhosmari, garlleg gwyllt a winwns coch

I wneud 1 dorth

Cynhwysion

  • 250gm Blawd bara cryf
  • 1 llwy de o halen
  • 1 bag bychan o furum sych, oddeutu 7 gram
  • 4 llwy fwrdd o olew olewydd gwyryf pur
  • 200ml o ddŵr
  • 25g o halen môr man
  • 1 sbrigyn o rosmari
  • 25gm garlleg gwyllt wedi’i dorri
  • 50gm winwnsyn coch wedi’I dorri

Dull

1. Rhowch y blawd, llwy de o halen, burum, un llwy fwrdd o olew’r olewydd mewn powlen fawr, cymysgwch gyda’i gilydd ac yna ychwanegwch y dŵr yn araf gan dylino gyda’ch llaw i ffurfio toes, yna ewch ymlaen i dylino am ryw 5 munud.

2. Ymestynnwch y toes gyda’r llaw, plygwch yr ochrau i mewn i’r canol, acailwnewch y broses rhyw bum gwaith.

3. Rhowch y toes ar arwyneb gwaith olewog a pharhau i dylino, ei roi’n ôl yn y bowlen, gorchuddio gyda chling ffilm a’i roi mewn lle cynnes i chwyddo tan iddo ddyblu mewn maint.

4. Ar ôl chwyddo, rhowch y toes ar hambwrdd pobi a’i wasgu i mewn i siâp crwn, ei gwastatáu ac yna’i adael i godi am 30 munud.

5. Wrth i’r bara godi, torrwch y winwns, garlleg a rhosmari’n fân, a’u gadael i chwysu’n ysgafn mewn sosban, eu gadael i oeri, yna ychwanegwch yolew olewydd sy’n weddill.

6. Rhowch y bara mewn ffwrn wedi’i gynhesu i 200C, tywalltwch yr olew olewydd, garlleg gwyllt, winwns, rhosmari dros y bara, ysgeintiwch gydahalen y môr a choginio am 20 munud.