Gweithiwr allweddol yn dychwelyd i ddarparu ‘datrysiad digidol’ ar gyfer darparwr hyfforddiant

Mae un o ddarparwyr hyfforddiant mwyaf blaenllaw Cymru wedi cryfhau ei dîm i ddarparu “datrysiad digidol” a fydd yn golygu dull symlach o ymdrin â’i brosesau gweinyddu a chasglu data.

Mae Alex Hogg, dadansoddwr rheoli gwybodaeth newydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, yn dyfeisio’r datrysiad mewn ymateb i fenter Ddigidol Anedig ar gyfer darparwyr dysgu yn y gwaith.

“Bydd y gallu i gasglu data yn gywir ac mewn modd amserol, â mewnbwn uniongyrchol i’n systemau rheoli, yn ein galluogi i ddefnyddio dadansoddi amser real i wella penderfyniadau busnes am welliannau a buddsoddiadau yn y dyfodol i ddarparu gwasanaeth mentora a sgiliau o ansawdd uchel i unigolion, busnesau a’r gymuned ehangach,” dywedodd.

“Bydd hyn yn cael gwared ar yr angen i storio symiau mawr o waith papur, oherwydd y cynhelir popeth ar system ddiogel, gan arwain at fwy o arbedion effeithlonrwydd, gwelliannau o ran ansawdd, archwiliadwyedd a thryloywder.”

Mae Alex, 36, yn dychwelyd i Gwmni Hyfforddiant Cambrian ar ôl egwyl tair blynedd, bu’n gweithio i’r busnes fel cydlynydd cymorth technegol am naw mlynedd o 2005.

Mae ei rôl newydd bwysig yn canolbwyntio ar ddadansoddi data rheoli a chynhyrchu adroddiadau ystadegol i sicrhau bod y cwmni yn aros ar y trywydd iawn i fodloni ei rwymedigaethau contract dysgu yn y gwaith i Lywodraeth Cymru.

“Rydym yn allforio data i Lywodraeth Cymru bob mis ac mae’n hanfodol ei bod yn gyfredol ac yn gywir,” meddai Alex. “Mae’r boddhad swydd mewn llunio adroddiadau manwl gywir, sydd â gwerth ariannol ynghlwm wrthynt.”

Mae wrth ei fodd i fod yn ôl â’r cwmni ac yn byw yn y Trallwng unwaith eto. Yn ystod ei dair blynedd yn gweithio i ddarparwr meddalwedd yng Nghilgwri, mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi symud i bencadlys newydd ar Barc Busnes Clawdd Offa yn y Trallwng ac mae’r busnes wedi parhau i dyfu.

Dywedodd Alex ei fod yn amser cyffrous i ddychwelyd, â Llywodraeth Cymru yn lansio Gradd-Brentisiaethau cyn bo hir. Mae’n gobeithio cofrestru ar Radd-Brentisiaeth mewn gwyddor data ei hun i barhau i ddatblygu ei yrfa.

Mae eisoes wedi cyflawni GNVQ mewn TG Uwch yng Ngholeg Powys yn y Drenewydd, a phrentisiaeth mewn rheoli.

I ffwrdd o’r gwaith, mae’n mwynhau rhedeg ac yn edrych ymlaen at hanner marathon Llyn Efyrnwy ar 9 Medi. Mae’n aelod o Maldwyn Harriers, ac wedi cynrychioli Wallasey Athletic yn y gorffennol.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn fusnes sydd wedi ennill sawl gwobr yn arbenigo mewn darparu prentisiaethau yn y gwaith, Twf Swyddi Cymru a chyfleoedd cyflogadwyedd ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau ar draws Cymru gyfan. Mae ei busnes craidd yn y diwydiannau bwyd a diod ac arlwyo a lletygarwch.

Yn ogystal â’r ganolfan yn y Trallwng, mae gan y cwmni swyddfeydd rhanbarthol yn Llanelli, Caergybi, Bae Colwyn a Llanfair ym Muallt.