Mitchell y Pen-cogydd yn dringo’r ysgol arlwyo contract

Mae’r Pen-cogydd Mitchell Penberthy yn dringo ysgol gyrfa yn y sector arlwyo contract â chymorth y darparwr hyfforddiant sydd wedi ennill gwobrau, Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Cafodd ei enwi’n Brentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian eleni, ac mae Mitchell, 27 oed o Benarth, yn bwriadu mwynhau gyrfa hir a boddhaus yn y diwydiant.

Bu’n gweithio i’r cwmni arlwyo a lletygarwch CH&CO, yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd ers saith blynedd, gan ddechrau fel porthor ac yn ddiweddar cafodd ddyrchafiad yn ben-cogydd gorsaf ar ôl cwblhau cymhwyster Cuisine Crefftus Lefel 3 AAA. Nesaf mae cymhwyster Cuisine Crefftus Lefel 4 AAA.

I wella ei brofiad coginio, mae wedi gwirfoddoli yn Restaurant James Sommerin, sydd â sêr Michelin, ac wedi gweithio fel rhan o dîm yn darparu arlwyo VIP yn Stadiwm y Principality.

Mae’n priodoli ei ddiddordeb mewn coginio i’w nain a thaid a oedd yn tyfu eu ffrwythau a llysiau eu hunain. Pan oedd yn blentyn, byddai’n helpu i gasglu’r cnydau ac yna’u coginio â’i nain.

Fodd bynnag, roedd ei swydd gyntaf ar ôl gadael yr ysgol â naw TGAU â Chigyddion Teulu Thompsons, Penarth, lle roedd wedi gweithio ar benwythnosau a gwyliau’r ysgol.

Treuliodd 18 mis yn dysgu sgiliau cigyddiaeth cyn dewis newid ei yrfa, gan ddod yn barista yn Starbucks yng Nghaerdydd. Cafodd ei ddyrchafu yn feistr coffi, gan redeg seminarau yng nghaffi ‘gyrru trwodd’ y cwmni ym Mae Caerdydd i helpu cwsmeriaid i nodi blasau mewn gwahanol fathau o goffi i’w cyfateb â bwyd.

Ar ôl gweithio â Starbucks am dair blynedd, ymunodd â CH&CO i ddysgu’r swydd fel porthor cyn gweithio ei ffordd i fyny fel pen-cogydd â chymorth hyfforddiant oddi wrth Gwmni Hyfforddiant Cambrian.

Mae CH&CO yn gweithio gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o’i ymrwymiad i gefnogi busnesau Cymreig.

Mae’n ddiolchgar am y gefnogaeth mae wedi’i chael, a dywedodd Mitchell fod y pen- cogydd gweithredol Jason Lloyd, y pen-cogydd ‘bwyta mewn steil’ Kevin Brooks a swyddogion hyfforddiant Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi ei fowldio fel pen-cogydd.

“Pan ddechreuais â CH&CO, nid oeddwn erioed wedi bod mewn cegin sy’n gweithio o’r blaen ac roedd yn dasg eithaf brawychus oherwydd bod popeth yn ffres a newydd i mi,” dywedodd. “Cefais gefnogaeth wych oddi wrth y prif ben-cogyddion a’m tiwtoriaid, mae pob un yn gymwynasgar ac yn deall pobl.

“I danlinellu pa mor effeithiol y maent, cyflawnais fy nghymhwyster lefel dau â sgôr 98% ac yna cyflawnais fy lefel 3 mewn 18 mis. Bellaf caf fy ystyried yn fedrus i redeg prif adran arlwyo’r Cynulliad Cenedlaethol.”

Mae ei lwyth gwaith prysur yn amrywiol a gall olygu paratoi cannoedd o brydau’r dydd, darparu bwffes a chanapés lletygarwch a ‘bwyta mewn steil’ bwyty ar gyfer Aelodau’r Cynulliad.

Mae Mitchell yn chwarae hoci iâ i Gaerdydd a rygbi i’r Old Penarthians fel amatur, ac o ran y dyfodol, dywedodd: “Rwyf eisiau cyflawni’r cymhwyster lefel pedwar a gweld lle mae’;n fy nhywys.

“Oherwydd fy mod wedi gwneud arlwyo contract yn unig, credaf fod fy nyfodol yn y maes hwnnw, ond buaswn yn hoffi rhedeg fy uned arlwyo fy hun.”