Pam cymryd rhan mewn Cystadlaethau Sgiliau?

  1. Maen nhw’n rhoi hwb i’ch hyder a’ch perfformiad yn y gwaith, coleg, ysgol neu brifysgol

Nid yn unig y mae cystadlu’n gwella’ch hyder personol, mae’n gwella’ch hyder i gyflawni’ch sgiliau’n dda, ac yn eich cymell i ymdrechu’n galetach i fod mor dda ag y gallwch. Hwyrach y cewch gyfle hefyd i gwrdd ag arbenigwyr o’r radd flaenaf yn eich maes, i’ch helpu i wella.

  1. Cyfle i ddangos eich dawn i ddarpar Gyflogwyr

Cynigia WorldSkills gyfle heb ei ail i chi, sef y cyfle i arddangos eich gallu i ddarpar Gyflogwyr.

  1. Datblygu CV cryfach

Mae dangos eich bod wedi cymryd eich sgil i gystadleuaeth yn dangos lefel o hyder a gallu yn yr hyn rydych chi’n ei wneud!

  1. Mae’n cyflwyno cyfleoedd diddiwedd

O ddenu darpar Gyflogwyr, i deithio’r byd i gystadlu – nid ydych chi byth yn gwybod ble fydd eich sgiliau’n eich tywys.

  1. Teithio’r byd

Os symudwch chi ymlaen trwy’r rowndiau Cenedlaethol, gallech gael y cyfle i deithio o gwmpas y byd am hyfforddiant ac i gystadlu mewn rownd derfynol (sydd mewn gwlad wahanol bob blwyddyn!).

  1. Cynrychioli’ch Gwlad

Mae gennych gyfle i fod yn llysgennad i’ch gwlad ar lwyfan byd-eang.

Wyddoch chi?

Credodd 95% o gyn ymgeiswyr WorldSkills UK fod cymryd rhan yn y cystadlaethau, ar unrhyw lefel, wedi gwella’u sgiliau technegol a chyflogadwyedd, gyda 93% yn datgan bod cymryd rhan wedi’u galluogi i ddatblygu CV cryfach (https://www.worldskillsuk.org/).

Chwilio am Gystadlaethau

Edrychwch ar ein tudalen Cystadlaethau i chwilio am Gystadlaethau sydd ar ddod: https://www.cambriantraining.com/wp/en/competitions-events/