Paratoi Ysbinbysg y Môr

Paratoi Ysbinbysg y Môr
Er mwyn dathlu’r pysgod gwych sydd gennym yng Nghymru, a’ch helpu chi i’ch arferion bwyta’n iach ar gyfer 2019, mae’n amser da cyflwyno pysgod i’ch diet a dysgu sgiliau newydd hefyd. Mae pysgod yn uchel mewn protein ac yn cynnwys yr holl asidau brasterog omega-3 hollbwysig, sy’n hanfodol i ddiet iach.

Dyma ganllaw cam wrth gam i baratoi a choginio Ysbinbysg y Môr cyfan.

Offer angenrheidiol:

  • Siswrn,
  • Cyllell ffiledu,
  • Bwrdd torri glas
  • Offeryn tynnu cen pysgod (neu mae cefn cyllell yn iawn)

Paratoi’ch Ysbinbysg y Môr:

1. I ddechrau, gwnewch yn siŵr fod eich ardal waith yn lân, a’ch bwrdd torri’n ddiogel (Cyngor da; mae’n helpu cael tywel sychu llestri llaith oddi tano er mwyn ei atal rhag llithro) a chael bin gwastraff wrth law.

2. Tynnu’r cen oddi ar y pysgodyn: gan ddefnyddio’r offeryn tynnu cen, y cyfan sydd i’w wneud yw rhwbio’r offeryn dros gefn a bol y pysgodyn gan grafu’r cen a gwneud yn siŵr eich bod yn mynd tuag at y pen hefyd. Cofiwch wneud dwy ochr y pysgodyn. Neu, os ydych chi’n defnyddio cyllell, cadwch y llafn yn eich wynebu chi ar ongl a chrafwch y cen i ffwrdd. Wrth ddefnyddio’r gyllell, rhaid bod yn ofalus i beidio â chrafu gyda’r llafn yn erbyn y pysgodyn neu byddwch yn tyllu’r pysgodyn drosto yn hytrach na gwneud yn siŵr fod yr holl gen wedi’u tynnu i ffwrdd. Wrth wneud hyn, dylech ddal y pysgodyn wrth ei gynffon, gan ddefnyddio tywel sychu llestri sych a fydd yn helpu atal y pysgodyn rhag llithro allan o’ch dwylo.

Awgrym da: Y lle delfrydol i dynnu cen oddi ar bysgodyn yw yn y sinc gyda’r dŵr oer yn rhedeg. Wrth i chi ddechrau crafu’r pysgodyn, bydd rhywfaint o’r cen yn saethu i ffwrdd a bydd gwneud hyn yn y sinc yn helpu i reoli ble mae’r cen yn mynd. Ar ôl i chi ddechrau tynnu cen y pysgodyn, byddwch yn gallu gweld ble rydych chi wedi methu ac yna mynd drosto eto i orffen.

3. Ar ôl gorffen hyn, dylech fwrw ymlaen i dynnu’r perfedd. I wneud hyn, gallwch osod y pysgodyn ar y bwrdd torri, dod o hyd i’r twll (neu ben ôl) y pysgodyn a thorri ar ei hyd tuag at y pen rhwng y ddwy asgell uchaf ac o dan yr ên. Bydd rhedeg dŵr oer trwy’r bol yn helpu glanhau’r tu mewn wrth i chi dynnu’r perfedd a’r llinell waed.

4. Yna gallwch fynd yn ôl i’ch bwrdd torri, a chan ddefnyddio’ch siswrn, torri i ffwrdd wrth y ddwy asgell flaen a’r asgell ôl gan gadw mor agos at y cnawd â phosibl. Gallwch ddefnyddio papur cegin i sychu’r pysgodyn ar y cam hwn os ydyw’n parhau i deimlo’n llithrig.

5. Ffiledu’r pysgodyn: Nawr gallwch ddechrau tynnu’r ffiledi. I ddechrau, dylech redeg eich cyllell ar hyd asgwrn cefn y pysgodyn gan ddechrau o’r pen a thorri’n araf tuag at y gynffon. Bydd gwneud hyn yn araf yn gwneud yn siŵr bod gennych reolaeth ar eich cyllell wrth dorri ar hyd yr asennau. Rydych yn parhau i weithio’ch cyllell mewn strociau hir ar hyd un ochr y pysgodyn hyd nes i chi gyrraedd y bol lle dylai’r ffiled ddod i ffwrdd yn lân. Yna gallwch ail-wneud yr ochr arall.

Awgrym da: Gallech wneud gwlych gyda’r esgyrn trwy eu hychwanegu at ddŵr oer, cennin, nionod, ffyn seleri. Rhowch nhw i ferwi ac yna i fudferwi am 2 awr cyn hidlo.

Coginio Ysbinbysgod y Môr trwy Rostio yn y Badell Ffrio

Y ffordd orau o goginio ysbinbysg y môr yw trwy rostio yn y badell:

1. Gorchuddiwch ochr y croen yn ysgafn â blawd, gas ysgwyd unrhyw flawd dros ben i ffwrdd ac yna’i ychwanegu at badell o olew poeth gydag ochr y croen i lawr.

2. Ffriwch yn ysgafn nes bod y croen yn dangos rhywfaint o liw, yna rhowch y badell yn y ffwrn am 3 munud ar 185°C

3. Ar ôl coginio, tynnwch y pysgodyn o’r badell, gweinwch gyda rhywfaint o sampier wedi gwywo, tatws newydd wedi’u berwi a saws bara lawr ffres wedi’u gwneud o wlych y pysgodyn.

Mae paratoi a choginio Ysbinbysg y Môr cyfan yn datblygu sgiliau a ddysgwyd gan brentisiaid wrth weithio tuag at Brentisiaeth Sylfaen mewn Coginio Proffesiynol a Choginio Celfydd Lefel 2 ac mae’n cwmpasu paratoi a choginio pysgodyn cyfan. I gael rhagor o wybodaeth am Brentisiaethau, cysylltwch â Chwmni Hyfforddiant Cambrian yn cambriantraining.com neu Ffoniwch: 01938 555893.