Peter y Pencampwr i amddiffyn teitl Cigydd Ifanc Cymru yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru

Bydd pencampwr presennol Cigydd Ifanc Cymru Peter Rushforth yn cystadlu yn erbyn Tomos Hopkin sydd wedi ennill tair gwaith yn y gorffennol yn rownd derfynol eleni yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair ym Muallt ar ddydd Llun.

Mae Rushforth, 20, o Siop Fferm Swans, Treuddyn, yr Wyddgrug, yn cyrraedd y gystadleuaeth yn syth ar ôl ennill medal efydd yn rownd derfynol Cystadleuaeth Genedlaethol Cigyddiaeth WorldSkills UK yn y Skills Show penwythnos diwethaf.

Hefyd, ar ôl cynrychioli Prydain Fawr mewn cystadleuaeth gigyddiaeth Ewropeaidd mae o’n awyddus i amddiffyn teitl Cigydd Ifanc Cymru. “Mae gen i gystadleuaeth gref ond dwi wedi dysgu llawer o rownd derfynol WorldSkills UK a ddylai olygu fy mod i mewn sefyllfa dda,” meddai.

“Dwi’n si?r y bydd Tomos yn awyddus i adennill y teitl ond dwi’n disgwyl cystadleuaeth gref gan yr holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol.”

Bydd yn ddiwrnod prysur i Rushforth a Hopkin, 22, o Gwyrhyd Mountain Meat, Rhiwfawr, Abertawe, a fydd yn mynd yn syth i gystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru yn y prynhawn ar ôl cystadlu hefyd yng nghystadleuaeth newydd Cigydd Porc Cymru yn y bore.

Y cigyddion eraill yn rownd derfynol cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru, sydd ar agor i gigyddion dan 25 oed, yw Dewi Davies a Jed Jones y ddau o Fwydydd Celtica Cyf, Cross Hands.

Y cigyddion eraill yn rownd derfynol cystadleuaeth Cigydd Porc Cymru, sydd ar agor i gigyddion o bob oed, yw Clinton Robert o Ponty Butchers, Pontardawe a Dave Lang o New Inn Butchers Shop, Pontnewydd-ar-Wy.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian o’r Trallwng, sydd wedi ennill gwobrau, yn trefnu’r gystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru, a hefyd yn cydweithio â Keith Brown, prif stiward cystadlaethau cynhyrchu cig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, i redeg Cystadleuaeth Cigydd Porc Cymru ar y cyd.

Mae’r gystadleuaeth i gigyddion ifanc yn cael ei noddi ar y cyd gan Hybu Cymru, Bwydydd Randall Parker, a WMO, Y Trallwng. Yn ogystal â chael y fraint o gael ei (h)enwi yn gigydd ifanc gorau Cymru, bydd yr enillydd yn derbyn siec am £130, bydd enillydd yr ail wobr yn derbyn £70 a bydd y pedwar sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn tlws.

Eleni, bydd y cigyddion ifanc yn cael eu herio i gynhyrchu arddangosfa o gig mewn dwy awr o grwper uchaf cyfan o Gig Eidion Cymreig, a choes o Gig Oen Cymreig PGI, hanner ysgwydd o Borc Cymreig a chyw iâr Gymreig gyfan o Gefn Llan.

Mae Cymdeithas Moch Prydain a Hybu Cig Cymru yn noddi’r gystadleuaeth i gigyddion porc. Bydd y cigyddion yn cael dwy awr i greu arddangosfa arloesol a chreadigol o hanner mochyn Cymreig, gan ddefnyddio naill ai dulliau modern ynteu ddulliau traddodiadol i hybu Porc Cymreig yn y ffordd orau i ddefnyddwyr.

Bydd yn rhaid i gigyddion yn y ddwy gystadleuaeth ddewis darnau i gynyddu gwerthadwyedd a gwerth y cynnydd gymaint â phosibl, a bydd y beirniaid yn chwilio am syniadau newydd a chreadigol, techneg torri, gwerth ychwanegol, technegau arddangos, HACCP a hylendid personol a’r cynnyrch mwyaf posibl o’r carcasau.

Meddai Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Mae’r ddwy gystadleuaeth yma’n darparu’r llwyfan perffaith ar gyfer cigyddion Cymru iddyn nhw arddangos eu sgiliau mewn digwyddiad pwysig. Anrhydedd mawr yw bod y gorau yng Nghymru yn eich galwedigaeth o ddewis.”

Dywedodd Mr Brown fod y gystadleuaeth newydd wedi cael ei dylunio i roi cyfle i gigyddion o bob oed gael cydnabyddiaeth i’w sgiliau, wrth hybu Porc Cymreig ar yr un pryd.

“Rydym bob amser yn ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd o hybu Porc Cymreig ac mae’r gystadleuaeth hon yn cyd-ddigwydd â menter newydd Porc.Wales Hybu Cig Cymru,” ychwanegodd. “Nod Porc.Wales yw darparu llwyfan ar gyfer cynhyrchwyr a manwerthwyr i hybu porc o foch sydd wedi’u geni a’u magu yma yng Nghymru.”

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn darparu prentisiaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu â chefnogaeth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555 893, Keith Brown yng Nghymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ar Ffôn: 01982 552100 neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.