Prentis Uwch Darren yn codi trwy’r rhengoedd yn Stena Line

Mae’r cyn cynorthwyydd caban Darren Brown o gwmni fferi Stena Line yng Nghaergybi yn profi bod un o themâu allweddol Wythnos Prentisiaethau Cenedlaethol- “gall prentisiaeth eich tywys i unrhyw le” – yn wir.

Ers ymroi ei hun i dyfu yn y busnes ym 1999 â Phrentisiaeth lefel tri mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid, mae o wedi codi’n gyson trwy’r rhengoedd â phob cymhwyster newydd y mae wedi’i gyflawni ac yn ddiweddar cafodd ddyrchafiad i gydlynydd y DU ar gyfer y gweithrediad Gwasanaethau ar y Llong ar y lan.

Mae llawer o waith caled ac ymrwymiad wedi’i baru â dilyniant gyrfa a datblygiad personol a bellach mae Darren, 41, yn annog dysgwyr awyddus ledled Cymru i fanteisio ar bob cyfle prentisiaeth sydd ar gael iddynt

Roedd yn oruchwylydd warws a chynorthwyydd caban pan ddechreuodd ei yrfa gynnar ac mae dyrchafiadau wedi dilyn wrth iddo wneud cynnydd i Brentisiaeth Uwch lefel pedwar mewn rheolaeth. Bellach mae bron â chwblhau Prentisiaeth Uwch lefel pump ac mae eisiau parhau i lefel saith i barhau i herio ei hun.

Darparwyd yr holl gymwysterau gan reolwr Gogledd Cymru Cwmni Hyfforddiant Cambrian Dawne Thomas, sy’n gweithio yng Nghaergybi. Ariennir rhaglenni Prentisiaeth gan Lywodraeth Cymru â chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Gan arwain y tîm yn y DU, mae ei rôl amrywiol yn cwmpasu popeth o gefnogi gweithgarwch masnachol ar fferis Stena Line, cefnogi datblygiad bwydlenni, cefnogi systemau, rhestri erthyglau, adroddiadau ariannol i gefnogi gwaith ailwampio llongau.

“Nid yw unrhyw ddau ddiwrnod byth yr un peth yn fy swydd,” meddai Darren, sy’n byw yng Nghaergybi ac yn treulio oddeutu pedwar diwrnod y mis yn Sweden, lle mae Pencadlys Stena Line a’i warws Canolog.

“Bob tro dwi wedi cwblhau prentisiaeth dwi wedi cael dyrchafiad. Efallai bod yna elfen o fod yn y lle cywir ar yr amser cywir, ond credaf fod dysgu sgiliau newydd hefyd wedi bod yn ffactor wrth benderfynu.

“Y peth pwysig yngl?n â dilyniant dysgu yw ei fod yn atgyfnerthu’r hyn rydych eisoes yn ei wybod ac yn gwneud i chi ddechrau meddwl yn ehangach. Mae Stena Line yn gwmni arloesol iawn ac mae hynny’n ysgogi staff i barhau i wthio i’r lefel nesaf.

“Yn dilyn y cymwysterau mae fy nghydweithiwr a minnau wedi’u cwblhau, mae’r cwmni’n gobeithio peilota Prentisiaeth Uwch mewn Bwyd a Diod ar lefelau pedwar a phump.

“Gwelwn botensial mawr i gr?p o staff ar ein llongau Stena Line i ddatblygu fel y genhedlaeth nesaf o reolwyr i gefnogi cynllunio dilyniant. Mae’n bwysig bod y bobl hyn sy’n datblygu’n cael yr un cyfleoedd ag y cawsom ni.

“Mae’n waith caled cyflawni Prentisiaeth Uwch ond mae’n rhoi cymaint o wefr pan fyddwch yn ei gwneud ac mae’n cadw’r ymennydd yn egnïol. Mae’n hawdd iawn cael eich dal yn arferion ailadroddus busnes modern, ond trwy gyflawni’r cymwysterau hyn cewch eich gorfodi i stopio, gwerthuso a datblygu ffyrdd newydd o feddwl.

“Rwyf wedi gyrru fy nhîm i’w cynorthwyo wrth gyflawni eu nodau o brentisiaethau lefel tri ac mae pawb ohonynt wedi gweld y manteision. Mae hyfforddiant yn ein helpu i gadw ein gweithlu a gyrru safonau gwasanaeth ar ein llongau sy’n gyrru canlyniadau gwych yn y pen draw.”

Canmolodd y gefnogaeth hyblyg, wedi’i deilwra’n arbennig y mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn darparu i ddysgwyr Stena Line. “Gwnaethom edrych ar wneud cymhwyster tebyg â Phrifysgol Bangor ond nid oedd y rhaglen yn ddigon hyblyg i anghenion ein busnes,” meddai.

“Mae dysgu gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian yn cael ei deilwra i weithio mewn busnes sy’n symud yn gyflym ac mae Dawne, a oedd arfer gweithio i Stena Line, yn gwybod yn union sut rydym yn gweithredu. Mae’n bartneriaeth wych – nid oes unrhyw beth byth yn ymddangos i fod yn ormod o drafferth iddynt.”

Dawne oedd rheolwr Darren yn Stena Line, a dywedodd ei bod wedi gweld datblygiad a thwf trawiadol yn ei sgiliau ac arddull rheoli gyda phob cymhwyster y mae wedi’i gyflawni dros y blynyddoedd.

“Mae Darren yn ddysgwr ardderchog ac mae bob amser yn awyddus i ddatblygu er ei fod yn ddyn prysur iawn,” ychwanegodd. “Ni allaf ei ganmol gormod.”

Capsiwn y llun: Darren Brown gyda dwy o’i dystysgrifau cymhwyster.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555893 e-bost: katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818 e-