______________________________________________________
Gwobrau Prentisiaeth, Cyflogaeth a Sgiliau Hyfforddiant Cambrian
Dathlu popeth sy’n wych yngl?n â hyfforddiant, prentisiaethau a sgiliau yng Nghymru
Yma yn Hyfforddiant Cambrian rydym yn gweithio â chyflogwyr a dysgwyr gwych ledled Cymru yn darparu amrywiaeth o raglenni hyfforddiant, prentisiaethau, a hyfforddiant cyflogaeth a sgiliau ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae gan bob un busnes, prentis neu ddysgwr ei stori a’i gyflawniad ei hun i adrodd arno. Ac i ddathlu hyn rydym wedi penderfynu lansio ein gwobrau ein hunain.
Mae ein cystadleuaeth Gwobrau Prentisiaeth yn gwobrwyo unigolion a chyflogwyr sydd wedi rhagori yn y rhaglenni dysgu a hyfforddi galwedigaethol a gyflwynwn ar ran Llywodraeth Cymru; Twf Swyddi Cymru ac/neu raglenni Prentisiaeth ar draws Cymru.
Bydd y Gwobrau hyn yn dathlu cyflawniadau’r rhai sydd wedi rhagori ar eu disgwyliadau yn ystod eu hymgysylltiad a’u hymrwymiad i’r rhaglenni hyfforddiant a sgiliau ac sydd wedi dangos dull unigryw o droi at hyfforddiant, datblygiad, gallu i ddangos menter ac arloesed, blaengaredd a chreadigrwydd. Bydd Gwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau Hyfforddiant Cambrian yn tynnu sylw at lwyddiannau eithriadol cyflogwyr ac unigolion sy’n cymryd rhan ym mhopeth, o Dwf Swyddi Cymru i hyfforddiant prentisiaeth ledled Gogledd, Canolbarth, De a Gorllewin Cymru.
Bydd y Categorïau’n cynnwys:
- Ymgysylltu Cyflogwyr â Phrentisiaeth Bach, Canolig, Mawr a Macro
- Prentis y Flwyddyn Prentis Sylfaen (Lefel 2), Prentisiaeth (Lefel 3), Prentisiaethau Uwch (Lefel 4 +)
Dyddiad agor y ceisiadau fydd 13 Tachwedd 2019 & y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau yw 24 Ionawr 2020. Bydd ennillwyr yn cael eu datgelu yn y seremoni wobrwyo ar 4 Mawrth 2020. Bydd y seremoni yn digwydd ar noson o’r 4 Mawrth 2020, International Pavilion, yn y Mae y Sioe Frenhinol, Llanelwedd.
Cynigia’r Gwobrau hyn hefyd gyfle i’n henillwyr ym mhob categori i gael eu rhoi ymlaen yn awtomatig ar gyfer Gwobrau Prentisiaeth Cymru gwerthfawr iawn a redir ar y cyd gan NTfW a Llywodraeth Cymru. Os byddwch yn llwyddiannus, bydd angen llenwi cais arall gyda’n cefnogaeth ni tuag at y gwobrau hyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Rhaglen Brentisiaeth gyda chymorth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Os Oes gennych unrhyw cwestiynnau, cysylltwch gyda Katy Godsell, ein Rheolwr Machnata ar katy@cambriantraining.com
Pob Lwc.