Mae 100% o’n dysgwyr wedi mynegi iddynt fwynhau eu taith dysgu prentisiaeth*
Ewch yn brentis a bachwch ar eich cyfle i ennill cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau hanfodol wrth i chi ennill yn y gwaith.
Bydd y profiad y byddwch chi’n ei ennill fel prentis yn aros gyda chi am byth ac yn darparu’r sgiliau trosglwyddadwy y bydd arnoch eu hangen ar gyfer y dyfodol.
Mae prentisiaethau yng Nghymru ar gael i unrhyw un sydd am ddysgu yn y gwaith ac ehangu eu gwybodaeth a’u sgiliau. Darganfyddwch…Beth yw prentisiaeth? >>
Pam mynd yn Brentis:
- Rydych chi’n dysgu wrth weithio
- Yn ennill arian wrth ddysgu
- Yn ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad ac yn wynebu heriau newydd
- Yn ennill cymwysterau cydnabyddedig y mae cyflogwyr yn eu parchu
- Cyfleoedd gwych am ddilyniant, boed yn edrych i astudio ymhellach neu ddringo’r ysgol yn y gweithle
- Dysgu ar gyflymder sy’n gweddu i chi gyda chefnogaeth swyddog hyfforddiant
Prentisiaethau a Hyfforddiant
Ar gyfartaledd, cymer ein Prentisiaethau 18 mis i’w cwblhau, ond yn dibynnu ar y rhaglen brentisiaeth a ddewisir, gall gymryd hyd at 3 blynedd.
Ni yw un o’r prif ddarparwyr hyfforddiant yng Nghymru ac arbenigwn mewn cyflwyno prentisiaethau yn y meysydd galwedigaethol canlynol;
- Lletygarwch
- Lletygarwch Trwyddedig
- Cynhyrchu Bwyd a Diod
- Gwasanaethau Cwsmeriaid
- Sgiliau Adwerthu
- Gweinyddiaeth Fusnes
- Arwain Tîm
- Rheolaeth
- Gwasanaethau Cynllunio Ariannol
- Rheoli Adnoddau’n Gynaliadwy
- Ffensio (adeiladu)
- Gofal Ceffylau
- Gofal, Dysgu a Datblygiad y Plant
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Caiff ein holl raglenni prentisiaeth eu hachredu a’u hardystio gan Gyrff Dyfarnu ac fe’u cyflwynir gan ein tîm hyfforddi hynod fedrus i sicrhau eich bod yn cael dim ond hyfforddiant o’r safon orau. Peidiwch â chymryd ein gair ni, edrychwch ar yr hyn y mae’n prentisiaid yn ei ddweud amdanom >>
Gwasanaeth Cyfateb Prentisiaeth
Mae’r gwasanaeth cyfateb prentisiaeth yn eich galluogi i chwilio am gyfleoedd gwaith prentisiaeth o safon yng Nghymru ac sydd ar gael i chi.
Pam na throwch chi at wefan Gyrfa Cymru heddiw a chofrestru i wneud cais am swyddi >>
Cyllid sydd Ar Gael
Mae Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid ar gyfer y rhan fwyaf o’ch costau hyfforddi (mae gwahanol lefelau cyllid yn dibynnu ar y meini prawf), gyda’r gefnogaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Cysylltwch â Ni
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflogi prentis, neu ddechrau rhaglen Brentisiaeth, cysylltwch â ni i drafod eich dewisiadau a sut gallwn ni eich helpu chi;
E-bost: info@cambriantraining.com neu Ffôn: 01938 555893
* mae canlyniadau’r ystadegau o arolwg o brentisiaid a gynhaliwyd yn 2013