Prentisiaethau’n helpu pencampwr cigydd i wireddu uchelgais oes

Mae’r pencampwr cigydd Matthew Edwards ar y trywydd cywir i wireddu ei uchelgais o berchen ar ei siop ei hun, a’i rhedeg, ar ôl defnyddio rhaglenni prentisiaeth i hogi ei sgiliau i’r lefel uchaf.

Mae’r cigydd dawnus 24 oed o Wrecsam, sy’n gweithio i Gigydd Teulu Vaughan, Penyffordd, wedi ennill bron pob prif wobr sydd ar gael i gigyddion ifanc ym Mhrydain ers dod yn brentis.

Anterth ei wobrau, sydd wedi cynnwys Cigydd Ifanc Prydeinig y Flwyddyn, lle yn nhîm cigyddiaeth Prydeinig a nifer o wobrau cyntaf mewn cystadlaethau gwneud selsig, oedd bod yn bencampwr cigyddiaeth cyntaf WorldSkills UK y llynedd.

Bellach mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru eleni, a gynhelir yn Venue Cymru, Llandudno ar Hydref 20.

Wedi’u trefnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), mae’r gwobrau mawreddog yn dathlu cyflawniadau eithriadol unigolion, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Hyfforddeiaeth, Twf Swyddi Cymru a Phrentisiaeth Llywodraeth Cymru. Mae Pearson CCC yn noddi’r gwobrau ac mae’r partner cyfryngau Media Wales yn eu cefnogi.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Rhaglen Brentisiaeth gyda chymorth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Ar ôl mynd o Brentisiaeth Sylfaen i Brentisiaeth mewn Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod, yn ddiweddar mae Matthew wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch mewn Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd Lefel Pedwar. Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng wedi darparu’r rhaglenni ac mae Matthew yn cynllunio parhau i gymhwyster lefel pump wrth hefyd mynychu cwrs astudiaethau busnes min nos mewn coleg.

Bellach mae’n trosglwyddo ei sgiliau i brentis cigydd newydd y mae’r siop wedi’i recriwtio. Mae’n rhedeg y siop ar ddau ddiwrnod yr wythnos a phan fydd y perchennog, Steve Vaughan ar wyliau. Rhagorwyd ar dargedau a osodwyd ar gyfer mwy o gwsmeriaid a throsiant ar y ddau ddiwrnod.

“Rwyf wedi cyflawni mwy nag y buaswn wedi dychmygu y byddai’n bosibl ers cychwyn fy mhrentisiaeth,” meddai Matthew, sy’n hyrwyddo prentisiaethau mewn ysgolion a cholegau. “Rwy’n ymrwymedig iawn i’r hyn rwy’n ei wneud yn y busnes ac oherwydd fy mod yn gweithio tuag at fy nyfodol, uchelgais fy mywyd yw bod yn llwyddiannus ac agor fy siop fy hun.”

Dywedodd Mr Vaughan: “Mae brwdfrydedd ac ymrwymiad Matthew i’w waith yn rhagorol. Mae wedi gwneud cyfraniad enfawr at y busnes a chwalu pob targed rwyf wedi’u gosod iddo.”

Llongyfarchodd Gweinidog Cymru dros Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, Matthew a’r 32 unigolyn arall sydd wedi cyrraedd rhestr fer rownd derfynol y wobr. “Rydym yn falch ein bod yn darparu un o’r rhaglenni prentisiaeth mwyaf llwyddiannus yn Ewrop, â chyfraddau llwyddiant yng Nghymru yn parhau i fod ymhell dros 80 y cant,” meddai hi.

Mae datblygu pobl ifanc medrus yn hanfodol i’n heconomi.” Mae gennym brentisiaid gwirioneddol eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn darparu llwyfan perffaith i ni ddathlu eu cyflawniadau a’u gwaith caled. Mae’r cyflogwyr a’r darparwyr hyfforddiant yr un mor bwysig, gan fynd cam yn ychwanegol i gefnogi eu prentisiaid.”

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â Duncan Foulkes ar Ffôn: 01686 650818 neu 07779 785451 neu e-bost: duncan.foulkes@btinternet.com neu Karen Smith, rheolwr marchnata a chyfathrebu NTfW, ar Ffôn: 02920 495861.