Gellir diffinio Rheoli Gwastraff fel casglu, cludo a gwaredu a rheolaeth derfynol gwastraff a deunyddiau ailgylchu, gan gynnwys goruchwyliaeth y gweithrediadau hynny, ac ôl ofal safleoedd gwaredu, gan gynnwys y camau a gymerir fel brocer a delwyr.

Yn Hyfforddiant Cambrian, rydym yn cynnig prentisiaethau Rheoli Ailgylchu a Gwastraff ar draws Cymru i weddu holl ardaloedd y diwydiant o lefel sylfaen i brentisiaethau uwch. Gall dysgu trwy brentisiaethau helpu staff i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol i greu gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant.  

Bydd ein rhaglenni prentisiaeth Rheoli Ailgylchu a Gwastraff yn rhoi i chi’r holl sgiliau sydd angen er mwyn llwyddo yn y diwydiant.

Mae cyfleoedd ar gyfer prentisiaid ar gael lle mae busnesau ar agor ar gyfer gweithwyr newydd a presennol.

Dyma’r gweithgareddau craidd yn y diwydiant;

  • Casglu a chludo gwastraff;
  • Gorsafoedd trosglwyddo, Gwastraff y Cartref a Chanolfannau Ailgylchu;
  • Ynni o wastraff (gan gynnwys prosesau adferiad thermol a threulio anaerobig);
  • Ailgylchu, prosesu a gweithrediadau arbenigol
  • Tirlenwi.

Yn ôl RecycleNow, mae ailgylchu yn y DU yn arbed dros 18 miliwn tunnell fetrig o garbon deuocsid y flwyddyn – sy’n gyfwerth â thynnu 5 miliwn o geir oddi ar y ffordd.

Hyfforddiant a Phrentisiaethau

Cyflwynir hyfforddiant yn y diwydiant rheoli gwastraff ac ailgylchu mewn ystod eang o ffurfiau. Mae’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau’n cynnig fframwaith syml a rhesymol sy’n cyflwyno cyflawniad a chymwysterau dysgwyr mewn ffordd sy’n hawdd ei deall, ei mesur a’i chymharu.

Ei nod yw rhoi cyfle i unigolion ddysgu’n fwy hyblyg a galluogi ystod ehangach o sefydliadau, gan gynnwys cyflogwyr i gael cydnabyddiaeth am eu hyfforddiant. Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn ganolfan gymeradwy gyda WAMITAB am gyflwyno hyfforddiant mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy.

Cymwysterau prentisiaeth ar gael yng Nghymru:

  • Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy Lefel 2
  • Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy Lefel 3
  • Systemau a Rheoli Gweithrediadau Lefel 4

Gall ein Swyddogion Hyfforddiant profiadol helpu gweithwyr i ddewis y cwrs iawn ar y lefel briodol i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Cyflwynir y cymwysterau hyn yn y gweithle.

Cyflogwyr y gweithiwn gyda nhw;
Rydym wedi sefydlu cysylltiadau gweithio gwych gyda chyflogwyr ledled Cymru yn y Diwydiant Lletygarwch ac rydym yn parhau i rwydweithio gyda chyflogwyr sy’n ystyried cymryd rhan mewn prentisiaethau fel rhan o’u rhaglen datblygu hyfforddiant. Peidiwch â chymryd ein gair amdano yn unig, gweld beth mae ein cyflogwyr yn ei ddweud amdanom ni >>

Recriwtio prentis gyda’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau (AMS)
Mae’r gwasanaeth paru prentisiaethau yn rhoi platfform ar-lein AM DDIM i chi hysbysebu a hyrwyddo’ch cyfleoedd gwaith prentisiaeth o safon. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth >>

Cyllid Ar Gael
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ar gyfer y rhan fwyaf o gostau hyfforddi’r prentisiaid,  gan eich gadael i dalu am eu cyflog yn unig.

Eisiau dysgu yn Gymraeg? Gallwn ddarparu pob rhaglen brentisiaeth yn ddwyieithog neu yn Gymraeg.