Rysáit: Caws Pob

I weini 4 o bobl

Cynhwysion

  • 50g Blawd plaen
  • 50g Menyn Cymreig
  • 250ml Cwrw Cymreig
  • 250g Cheddar Aeddfed Cymreig
  • 10g Mwstard Cymreig
  • 30ml Saws Caerwrangon
  • 100g o gennin wedi’u sleisio’n fân
  • 4 tafell fawr drwchus o fara graneri

Dull

  1. Chwyswch y cennin mewn sosban fach gyda’r menyn a gadewch nhw i oeri ychydig.
  2. Mewn sosban fach, toddwch y menyn a gwnewch roux gyda’r blawd.
  3. Coginiwch y roux am gwpl o funudau, gan droi’n barhaus hyd nes iddo adael ochr y sosban, wedyn ychwanegwch y cwrw Cymreig yn raddol i greu pâst llyfn.
  4. Ychwanewch y cheddar aeddfed Cymreig a’r cennin – dylai fod gennych bâst trwchus erbyn hyn.
  5. Yn olaf, ychwanegwch y mwstard Cymreig a’r saws Caerwrangon a blasuso gyda halen a phupur.
  6. Tostiwch y bara graneri’n ysgafn yna taenwch y cymysgedd caws yn eithaf trwchus hyd at yr ymylon, rhowch dan gril poeth i’w goginio tan iddo frownio.