Y goreuon yn ennill yng Ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian

Cafodd cyflogwyr ac unigolion ysbrydoledig sydd wedi rhagori mewn prentisiaethau, rhaglenni hyfforddiant sgiliau a chyflogaeth, a gyflwynwyd gan un o gwmnïau hyfforddiant gorau Cymru, eu cydnabod mewn noson wobrwyo flynyddol ar nos Fercher.

Cynhaliodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian (CHC) sydd â phencadlys yn y Trallwng a swyddfeydd yn Llanfair-ym-muallt, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli, ei drydedd seremoni Gwobrau Prentisiaeth, Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol yn y Pafiliwn Rhyngwladol ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanfair-ym-muallt.

Cafodd bymtheg cwmni a dysgwr ar draws Cymru sydd ynghlwm â rhaglenni a gyflwynwyd gan y cwmni eu cynnwys ar y rhestr fer, gyda Rheolwr Gyfarwyddwr CHC, Arwyn Watkins OBE, yn eu disgrifio fel y goreuon o blith dros 2,500 o brentisiaid a 600 o gyflogwyr sydd wrthi’n gweithio gyda’u cefnogaeth.

“Nid oes dim yn rhoi mwy o falchder i ni na gallu cydnabod rhagoriaeth, felly hoffwn longyfarch pawb sydd wedi’u henwebu, yn enwedig yr enillwyr,” meddai Arwyn.

“Mae’r goreuon yn y rownd derfynol ac maen nhw’n cynnig straeon ysbrydoledig sy’n dangos yn union sut mae rhaglenni prentisiaeth llwyddiannus yn cael eu rhoi ar waith ar draws Cymru.”

Bydd enillwyr pob categori’n cael cyfle i gael eu rhoi gerbron ar gyfer y Gwobrau Prentisiaeth Cymru mawreddog, a gyd-drefnir gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn nes ymlaen eleni.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Enillwyr 2019

Cyflogwr Mawr y Flwyddyn
Mae Adran Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Sir Powys wedi bod yn buddsoddi yn ei rhaglenni dysgu yn y gwaith ers dros 40 mlynedd ac mae ganddi 31 o brentisiaid ar hyn o bryd.

Mae’r awdurdod rhanbarthol yn darparu llwybr gyrfa drwodd i uwch reolaeth, gyda thîm dysgu a datblygu wrth law i gefnogi ei rôl fel buddsoddwr yn ei staff.

“Mae Cyngor Sir Powys wedi bod yn darparu prentisiaethau er 1978 oherwydd roeddwn i’n un ohonyn nhw fy hun bryd hynny!” meddai Ian Harris, Uwch Reolwr. “Rydym yn hyrwyddo buddsoddi mewn hyfforddiant prentisiaeth yn helaeth ac yn credu’n fawr mewn datganiad Richard Branson i “ofalu am eich staff a bydd y staff yn gofalu am eich busnes’.

“Cred Cyngor Sir Powys mewn meithrin gyrfaoedd trwy roi hyfforddiant prentisiaeth i’n gweithwyr a datblygu’u set sgiliau ac rydym yn ddiolchgar i Hyfforddiant Cambrian am y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud gyda ni i ddatblygu’n tîm.”

Cyflogwr Canolig ei Faint y Flwyddyn
Cred Radnor Hills, yn Nhrefyclo, bod darparu hyfforddiant prentisiaeth i’w weithlu rhyngwladol cyn bwysiced ag ansawdd ei bedair miliwn o boteli diod a gynhyrchir bob blwyddyn.

Dechreuodd ei raglen brentisiaeth yn 2017 gyda 10 wedi’u hymrestru, a dwy flynedd yn ddiweddarach, mae dros 50 o brentisiaid yn elwa ar gyfleuster hyfforddiant prentisiaeth amser llawn y cwmni.

“Mae ennill y wobr hon yn golygu llawer,” meddai Dave Pope, y Rheolwr Cyffredinol. “Buddsoddwn lawer o amser, ymdrech ac adnoddau i’n rhaglenni prentisiaeth, ond mae’n talu ffordd.

“Mae wedi cael effaith fawr ar gyfraddau cadw staff a thrwy roi mwy o wybodaeth i’n pobl, gallant drosglwyddo hynny i’r gweithle. Nid oedd pethau’n hawdd yn y dechrau, ond mae cael cyfleuster dysgu pwrpasol ar y safle wedi gwneud gwahaniaeth mawr.”

Cyflogwr Bach y Flwyddyn
Mae Brød – The Danish Bakery, yng Nghaerdydd, yn buddsoddi yn ei weithwyr er mwyn datblygu’r genhedlaeth nesaf o bobyddion crefftus.

Mae rhaglen hyfforddiant prentisiaeth wedi’i theilwra’n arbennig y siop fara a choffi annibynnol wedi darparu profiad uniongyrchol go iawn er mwyn i brentisiaid allu datblygu gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant bwyd.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill, ond rydw i wrth fy modd,” meddai’r perchennog, Betina Skovbro, a symudodd o Ddenmarc i’r DU ym 1998. “Roeddwn i’n meddwl mai tipyn o fenter oedd hi i ddechrau rhaglen brentisiaeth oherwdd does dim lle i wneud camgymeriadau wrth bobi. Mae’n golygu fy mod i’n galed ar y staff oherwydd rwy’n disgwyl llawer ohonynt, ond maen nhw wedi ymateb yn wych i’r rhaglenni hyfforddiant.

“Roedd fy nhad-cu’n bobydd a dechreuais y busnes hwn oherwydd teimlwn fod pobi crefftus yn grefft ar drai yr oeddwn eisiau gwneud rhywbeth yn ei gylch trwy hyfforddi’r genhedlaeth nesaf. Heb os, mae ein rhaglen brentisiaeth o gymorth yn hynny o beth.”

Yn y rownd derfynol hefyd roedd Greenacres Rescue, Hwlffordd.

Dysgwr Sylfaen y Flwyddyn
Mae gan Andrew Bennett stori eithriadol i’w rhannu ac mae’n dweud ei fod yn profi nad oes ots beth yw’ch oedran neu’ch cefndir addysgol, gallwch dal i lwyddo trwy brentisiaeth.

Cyflwynwyd y gŵr 50 oed i Bryson Recycling yn Abergele trwy wasanaeth cymunedol yn dilyn euogfarn o yrru’n beryglus yn 2016, ond creodd ddigon o argraff ar y cwmni i gael swyddi iddo ef ei hun a thrwy Brentisiaeth Ymwybyddiaeth o Ailgylchu Cynaliadwy, mae wedi dod yn oruchwyliwr safle dros dro.

“Mae’r wobr hon yn dangos beth ellir ei gyflawni trwy waith caled,” meddai Andrew, sydd hefyd yn ddyslecsig ond mae wedi codi ei lefel Mathemateg a Saesneg i radd C. “Rydw i wir wedi mwynhau fy rhaglen ddysgu sydd, heb os, wedi fy helpu i godi i’m swydd bresennol.

“Rydw i’n edrych ymlaen hefyd at symud i lefel arall ar ôl i mi gwblhau’r cwrs presennol yn yr wythnosau nesaf. Mae’n debyg nad ydych chi byth yn rhy hen i ddysgu!”

Ymhlith y lleill yn y rownd derfynol oedd: Carley-Ann Foley, 28, The Dognasium, Abertawe a Matilda Penny, 23, Vaughan’s Butchers, Penyffordd.

Prentis y Flwyddyn
Er gwaetha’r ffaith fod ganddi radd, mae Rebekah Chatfield, o Abertyleri yn priodoli ei phrentisiaeth am ddechrau gyrfa mewn pobi.

Mae Tystysgrif mewn Hyfedredd mewn Sgiliau’r Diwydiant Pobi wedi troi hobi’r ferch 23 oed fel pobydd yn y cartref yn yrfa gyffrous gyda Brød – The Danish Bakery, lle dywed bod dyfalbarhad, angerdd a gwaith caled yn ei helpu i dyfu yn y busnes.

“Nid oes llawer o ferched yn y diwydiant felly rwy’n gobeithio bod y wobr hon yn anfon neges ac y bydd mwy yn cael eu hannog i ymuno,” meddai. “Breuddwyd oedd troi fy angerdd yn yrfa ac mae’r gefnogaeth rydw i wedi’i chael gan y cwmni a Hyfforddiant Cambrian wedi gwneud pob dim yn bosibl.

“Rydw i eisiau parhau i ddysgu ac wythnos nesaf, rydw i’n gwneud cwrs pobi bara proffesiynol. Rydw i hefyd yn bwriadu gwneud uwch brentisiaeth.”

Ymhlith y lleill yn y rownd derfynol oedd Stephen Whiffen, 37, Radnor Hills, Trefyclo; Codi Wiltshire, 21, Jewson Limited, Llanfair-ym-Muallt a David Price, 38, Tîm Rheoli Adnoddau Cynaliadwy Cyngor Sir Powys, Aberhonddu.

Uwch Brentis y Flwyddyn
Mae dilyn Uwch Brentisiaeth mewn Rheolaeth Lletygarwch wedi sicrhau swydd amser llawn i Angharad Price-Evans yn Stena Line yng Nghaergybi, ond mae hefyd wedi’i gweld hi’n codi trwy’r entrychion i fod yn oruchwylwraig.

Dywed ei chyflogwr ei bod wedi “gweithio’n ddiflino” ac mae’r ferch 28 oed yn mynd trwy fwy o hyfforddiant prentisiaeth gyda llygad ar sichrau rôl mewn rheoli.

“Mae cryn dipyn o waith caled wedi mynd rhagddo i ennill y wobr hon ond rydw i wir wedi mwynhau,” meddai Angharad. “Mae wedi talu ar ei ganfed. Mae wedi bod yn gromlin ddysgu aruthrol i fynd o gontract dim oriau i lle’r ydw i rŵan, ac alla i ddim diolch digon i Sam (Mantache) o Hyfforddiant Cambrian am fod yno gyda fi ac yn fy helpu i drwyddo.

“Byddaf yn parhau i ddysgu a gwella oherwydd rydw i’n sicr eisiau bod yn rheolwr yn y cwmni.”

Ymhlith y lleill yn y rownd derfynol oedd Kevin Whyley, 61, Mainetti, Wrecsam; Lee Price, 58, Cyngor Sir Powys, Rhaeadr Gwy a Tracey Giliam, 53, Bryson Recycling, Abergele.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar 01938 555 893 neu David Williams, yr ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ar Ffôn: 079 54 106604.