Y pobydd 22 oed o Gaerdydd sy’n mynd i Ddenmarc i ddysgu pobi fel y Daniaid

Mae pobydd ifanc o Gaerdydd yn mynd i deithio i Ddenmarc i ddysgu am holl gyfrinachau pobi yn y ffordd Ddanaidd draddodiadol.

Gweithia Becky Chatfield fel prentis ym mhopty poblogaidd Brød ym Mhontcanna, a sefydlwyd gan yr alltud o Ddenmarc, Betina Skovbro, lle caiff ei hyfforddi gan Hyfforddiant Cambrian, sef darparwr hyfforddiant blaengar yn y Trallwng.

Mae’r ferch 22 oed, o sir Dyfnaint yn wreiddiol, wedi bod wrth ei bodd â phobi erioed er nad oedd hi wedi ystyried gwneud gyrfa ohono pan raddiodd o Brifysgol Abertawe gyda gradd mewn bioleg y môr.

Dywedodd: “Rydw i wedi bod yn pobi ers cyn cof felly roedd y sgiliau yno i bob pwrpas, ond mae symud i farchnad broffesiynol yn hollol wahanol.

Gwelodd hysbyseb am swydd yn Brød a phenderfynodd wneud cais.

“Mae pobi yn y dull Danaidd yn faes mor arbenigol, ond nid oes dim byd o gwmpas, heblaw am deisennau’r archfarchnadoedd a dydyn nhw ddim yr un fath wrth reswm. Fyddech chi ddim yn dysgu’r sgiliau yr ydych yn ei ddysgu fan hyn yn unrhyw le arall.

“Ac mae’n dîm mor fach, mae pawb yn adnabod ei gilydd ac yn hoffi ei gilydd. Mae’r lle i gyd o gynllun agored felly mae modd i ni weld y cwsmeriaid [o’r gegin]. Mae’n lle braf i fod.”

Dyma’r tro cyntaf iddi fod i Ddenmarc, a bydd hi’n treulio chwe diwrnod rhwng dau bopty lle mae’n gobeithio dysgu sgiliau newydd ac ychydig mwy na hynny.

Mae popeth rydym yn ei wneud fan hyn yn y ffordd Ddanaidd go iawn, ond y peth yw gallu gweld hynny ar waith yno, a gobeithio cael rhywfaint o ysbrydoliaeth am gynhyrchion newydd,” dywedodd.

“A chael ychydig o’r diwylliant hefyd, hygge a phopeth sy’n gymaint o beth mawr ond mae gweld pethau o lygad y ffynnon yn mynd i fod yn gwbl wahanol.

“Yn ôl pob sôn, nhw yw’r wlad hapusaf yn y byd, felly mae’n debyg y gwnâi weld a fydd pawb yn gwenu ar y trên i’r gwaith!”

Os oeddech chi’n credu bod a wnelo pobi yn y dull Danaidd â’r teisennau Danaidd o grwst rydych chi wedi’u gweld yn y siopau, mae Becky’n awyddus i agor eich llygaid i’r gwrthwyneb.

“Mae cymaint o amrywiaeth o wahanol fathau nad oeddwn i wedi’u gweld erioed o’r blaen nes gweithio fan hyn, ac rwy’n tybio y bydd amrywiaeth cyfan o bethau yno dydw i ddim wedi’u gweld erioed o’r blaen y bydd hi’n wych dysgu yn eu cylch.”

Mae ganddi rywfaint o gyngor i unrhyw un sy’n ystyried dechrau yn y proffesiwn.

“Mae’n waith corfforol galed, ond os oes gennych gariad amdano, mae’n wych. Mae pobi wastad wedi bod yn un o’m hobïau ac rydw i bellach yn cael gwneud hynny bob dydd.”

Rhaid i chi fod yn un am y bore hefyd. Mae diwrnod o waith yn dechrau am 5 y bore gyda Brød.

Becky yw prentis cyntaf Brød i gael trip i Ddenmarc. Dywed Ms Skovbro y bydd yn gyfle gwerthfawr iddi weld rhai o’r technegau o bobi yn y dull Danaidd yn uniongyrchol, a hefyd i ddysgu mwy am y wlad a’i diwylliant.

“Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iddynt weld o ble mae’n dod,” meddai.

Esbonia, “Rydym yn ceisio gwrando ar ein cwsmeriaid, ond rydym yn dryw iawn i’r ffyrdd Danaidd traddodiadol. Nid oes gennym fyns y Grog na mins peis yn Nenmarc, ond rydym yn eu gwneud nhw oherwydd dyna beth mae ein cwsmeriaid eu heisiau.”

Sefydlodd Brød ychydig dros ddwy flynedd yn ôl ac mae’n hapus â pha mor dda mae pethau wedi mynd.

“Roedd yn fenter enfawr i ni ar y dechrau – costiodd offer y popty fwy na’m tŷ. Ond mae pawb wedi’n derbyn ni’n dda, yn fy marn i oherwydd ein bod ni’n gwrando ar ein cwsmeriaid ac os ydym yn cael adolygiad gwael, rydym yn gwella pethau.

“Gan ein bod ni’n gwneud popeth yn ffres ar y diwrnod, mae’n rhaid i chi gael sgiliau arbennig fel y rhai y mae Becky’n eu dysgu. Mae llawer o bobyddion proffesiynol yn Nenmarc, ond ychydig iawn sydd yn y wlad hon ac nid oes prentisiaethau. Mae’r grefft yn marw oherwydd mae popeth yn cael eu hawtomeiddio mewn ffatrïoedd.

“Mae pobl yn cefnogi eu pobydd lleol yn Nenmarc oherwydd maen nhw’n gwybod eu bod wedi’u crefftio â llaw gyda chynhwysion ansawdd da a’u bod nhw’n prynu gan rywun sy’n poeni.”

Mae hi’n chwilio nawr am brentis arall i ymuno â Becky yng nghegin Brød. Ymddengys mai’r prif gymhwyster yw bod yn angerddol ynghylch pobi.

“Gallaf ddysgu popeth y mae arnynt angen ei wybod ond alla i ddim dysgu angerdd iddynt, alla i ddim eu dysgu i godi’n gynnar yn y bore ac alla i ddim eu dysgu i fod yma’n brydlon. Rhywun sydd am fod yn rhan o dîm bach ac sydd am dyfu a gwthio’u hunain,” meddai.