Y seren o gigydd, Peter, yn medi gwobrau prentisiaethau

Mae penderfyniad gyrfa Peter Rushforth i ddewis prentisiaeth yn hytrach na pharhau â’i astudiaethau academaidd yn y brifysgol yn talu ar ei ganfed i’r seren cigyddiaeth 21 mlwydd oed.

Mae’r cigydd sydd â sawl gwobr i’w enw o Goed-llai, Gogledd Cymru newydd ddychwelyd o’r Unol Daleithiau ar ôl sicrhau ysgoloriaeth Hybu Cig Cymru i astudio’r datblygiad a’r defnydd o chwarthor blaen cig eidion a chynhyrchion cysylltiedig.

Dim ond diwrnod ar ôl iddo ddychwelyd i’r DU, roedd yn ychwanegu gwobr arall at ei gabinet tlysau dan ei sang, ar ôl iddo gael ei enwi’n Uwch Brentis y Flwyddyn gan ei ddarparwr hyfforddiant, Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Roedd y wobr yn benllanw 12 mis cofiadwy i Peter a enillodd fedal aur Worldskills, teitl Cigydd Ifanc y Flwyddyn y Meat Trades Journal, cynrychiolodd y DU mewn Cystadleuaeth Cigyddion Ifanc Ewropeaidd a daeth yn agos i’r brig yng nghystadleuaeth y Prif Gigyddion Ifanc yn ystod 2016.

Gwaith caled, ymroddiad a chefnogaeth ei gyflogwyr, Clive a Gail Swan yn Swans Farm Shop, Treuddyn, Yr Wyddgrug a Chwmni Hyfforddiant Cambrian sydd yn gyfrifol am ei lwybr at lwyddiant.

Dechreuodd y daith pan oedd yn 15 oed a dechreuodd weithio yn y siop fferm ar ddydd Sadwrn i ennill arian poced. Gadawodd yr ysgol yn 18 oed gyda thair Safon Uwch, cafodd gyfle i fynd i’r brifysgol i astudio seicoleg ond yn lle hynny, dewisodd ennill tra’r oedd yn dysgu fel cigydd prentis.

Roedd yn gymaint o daith ddysgu i’r Swans ag ydoedd i Peter, gan mai ef oedd eu prentis cyntaf. Datblygodd o Brentisiaeth Sylfaen a Phrentisiaeth mewn Sgiliau Diwydiant Cig a Dofednod i Brentisiaeth Uwch mewn Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd, gan ennill cystadlaethau ar hyd y ffordd, gan gynnwys Cigydd Ifanc Cymru.

Erbyn hyn, cwta mis sydd tan y bydd yn cwblhau’r Brentisiaeth Uwch, sef yr hyn sy’n gyfwerth yn academaidd â gradd a nesaf mae’n bwriadu rhoi’r hyn a ddysgodd yn ystod ymweliad ysgoloriaeth ag UDA ar waith.

Mae’n hynod awyddus i ddatblygiadau toriadau newydd o chwarthor blaen cig eidion, a ddefnyddir yn draddodiadol ar gyfer pasteiod yn y DU. Yn UDA, mae’r chwarthor blaen yn cynhyrchu pum toriad tyner, gan gynnwys stecen y bwtler (flat iron steak).

“Mae’r toriadau eidion hyn mor dyner â stêcs syrlwyn a chrwper oherwydd y ffordd y mae’r cig yn cael ei dorri,” esboniodd Peter. “Gan fod y chwarthor blaen yn is o ran gwerth, mae’n dod â’r stecen o fewn cyrraedd gr?p o ddefnyddwyr sy’n methu fforddio’r stecen orau fel arfer ac sy’n defnyddio mwy o’r carcas.

“Roedd gen i ddiddordeb hefyd mewn jyrci cig eidion a charcuterie sy’n boblogaidd iawn yn America. Y cwestiwn roeddwn i am ei ofyn oedd: os maen nhw’n ei hoffi cymaint, pam na allwn ni ei wneud fan hyn?

“Rydym bellach yn dechrau gweld mwy o jyrci cig eidion mewn siopau cyfleustod, yr archfarchnadoedd, tafarndai a gorsafoedd petrol. Rwy’n credu bod marchnad am jyrci ffres o’r fferm a byddwn yn datblygu cynhyrchion newydd yn y siop yn ystod y misoedd nesaf.”

Gan fyfyrio ar ei lwybr dysgu trwy brentisiaeth, dywedodd: “Nid oedd gen i na’m cyflogwr syniad pa mor bell fyddai’r brentisiaeth yn mynd. Achos o roi cynnig arni a gweld a chymryd pob cyfle ar hyd y ffordd oedd hi.

“Roedd gen i gariad mawr am y diwydiant cig a theimlais gysylltiad ag ef. Roeddwn i’n hoffi’r syniad o gymryd cynnyrch sylfaenol, amrwd ac yna gweld y canlyniad rai oriau’n ddiweddarach ar ôl defnyddio fy sgiliau cigyddiaeth.

Agorodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian y drws i’r byd cystadlu i mi a’m cefnogi trwy’r cymwysterau. Oni bai am y gystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru a gynhelir ganddynt, mae’n bosibl na fyddwn i yn y sefyllfa rwyf ynddi nawr.

“Maen nhw wedi fy helpu i roi enw i mi fy hun ac mae’r cyfleoedd a ddeilliodd o hynny yn llawer mwy nag yr oeddwn i wedi’i ddisgwyl. Rydw i’n cofio cyngor Clive bob amser: ni waeth pa mor fawr neu fach, peidiwch byth â gwrthod cyfle.

“Mae’r prentisiaethau wedi rhoi i mi’r platfform i adeiladu fy ngyrfa. Maen nhw wedi rhoi i mi ddealltwriaeth o’r busnes, y sgiliau a’r wybodaeth i ddatblygu cynhyrchion newydd, wedi fy ngwthio i wella fy hun ac wedi rhoi i mi gymwysterau cydnabyddedig, sy’n bwysig.

“Clive a Gail sydd wedi rhoi i mi’r nerth i lwyddo. Maen nhw wedi fy annog i ac wedi rhoi cyfleoedd ac adnoddau i mi fynd allan a’i wneud.

Mae’n ddiddorol sylwi bod fy ffrindiau ysgol i gyd wedi gorffen y brifysgol ac nid oes gan yr un ohonynt swydd maen nhw wedi astudio amdani. Mae llawer ohonynt bellach yn cytuno fy mod i wedi gwneud y penderfyniad iawn i ddewis prentisiaeth.

“Mae angen profiad gwaith ar gyflogwyr mewn cynifer o swyddi’r dyddiau hyn, rhywbeth nad oes gan bobl sy’n gadael y brifysgol. Erbyn i chi orffen eich prentisiaeth, mae gennych dair neu bedair blynedd o brofiad.”

O ran y dyfodol, mae’n gobeithio cystadlu yng nghystadleuaeth Cigydd y Byd mewn rhai blynyddoedd. Yn y cyfamser, bydd yn trosi’r sgiliau y mae wedi’u dysgu i ddatblygu cynhyrchion newydd i’r siop.

Mae Gail Swan wrth ei bodd â llwyddiant Peter. “Allwn ni ddim â chael gwell gweithiwr,” meddai. “Fe oedd ein prentis cyntaf ac mae wedi bod yn gromlin ddysgu enfawr. Roedd popeth am y brentisiaeth yn gadarnhaol ac mae pob un ohonom wedi elwa ar yr hyfforddiant a gyflwynir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian.”

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd â swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli, yn cyflwyno prentisiaethau i 1,200 o ddysgwyr ac yn gweithio gydag oddeutu 400 o gyflogwyr ledled Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar ffôn: 01938 555 893 neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ar ffôn: 01686 650818.