Prentis Cogydd yn Hiraeth Restaurant and Coffee House

Cogydd proffesiynol or Chef
Llanidloes
Posted 1 month ago

Prentis Cogydd yn Hiraeth Restaurant and Coffee House yn Llanidloes

Plynlimon House, 50 Long Bridge Street, Llanidloes, Powys, SY18 6EF
Rydym yn chwilio am Gogydd brwdfrydig ac angerddol i ymuno â’n tîm yn Hiraeth, Bwyty a Thŷ Coffi Trwyddedig yn Llanidloes. Os ydych chi’n caru coginio ac yn awyddus i ddysgu a datblygu eich sgiliau, mae hwn yn gyfle gwych i chi!

Dyletswyddau:

  • Agor a chau’r bwyty.
  • Gweithio sifftiau brecwast, cinio a swper.
  • Paratoi bwyd a chynorthwyo’r Prif Gogydd.
  • Sicrhau bod safonau hylendid bwyd yn cael eu dilyn.
  • Monitro lefelau stoc.
  • Cymryd rhan mewn creu bwydlenni newydd.
  • Cynnal a chadw glendid y gegin.

Nodweddion Personol Dymunol:

  • Angerdd am goginio ac awydd i ddatblygu eich sgiliau coginio.
  • Sgiliau cyfathrebu cryf.
  • Sylw i fanylion a’r gallu i weithio dan bwysau.
  • Sgiliau datrys problemau a chymhelliant.

Gwybodaeth Ychwanegol a Manteision Allweddol: 

Cyfle Prentisiaethau: Rydym yn cynnig Prentisiaeth Goginio Proffesiynol (Lefel 2 a 3) mewn partneriaeth â Hyfforddiant Cambrian, sydd ar gael am o leiaf 16 awr yr wythnos. Mae hwn yn gyfle gwych i dyfu eich gyrfa wrth i chi weithio, ac rydym hefyd yn croesawu’r rhai sydd eisoes wedi dechrau’r cymhwyster hwn mewn mannau eraill ac sy’n edrych i’w gwblhau.

Tîm Cefnogol: Cewch gyfle i ddysgu gan Brif Gogydd profiadol iawn a gweithio mewn amgylchedd cyfeillgar, deinamig.

Mae manteision ychwanegol yn cynnwys:

  • Rhannu ‘tips’ a dderbyniwyd
  • 20% o ostyngiad ar fwyd
  • Bwyd a ddarperir yn dibynnu ar hyd y sifft.

Cymwysterau gofynnol: 

Sgiliau llythrennedd a rhifedd dda.

Gofynion o ran y Gymraeg: 

Dim.

Cwrs Prentisiaeth: 

Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol

Os ydych wedi cyflawni eich Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol, gallwn eich cefnogi drwy eich Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol.

Cyflog: 

Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Oriau: 

Safle llawn amser.

Trefniadau cyfweliadau: 

Cwrdd ar y safle.

Gwnewch cais: 

Byddwn wrth ein bodd yn clywed gennych! Anfon e-bost i hiraethllanidloesltd@outlook.com, a dywed wrthom ychydig amdanoch chi eich hyn a pham bod gennych diddordeb mewn ymuno a Hiraeth.

 

Job CategoryHiraeth Restaurant and Coffee House