Gofynion Mynediad
Mae’n rhaid i gystadleuwyr feddu ar y lefel sgiliau gofynnol i gwblhau’r tasgau canlynol yn y gystadleuaeth hyd lefel broffesiynol ac yn cyd-fynd â chymhwyster Lefel 3. Nid oes yn rhaid i gystadleuwyr fod yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 3 ar hyn o bryd.
Rhagbrawf – Amlinelliad o’r Gystadleuaeth
Bydd cystadleuwyr yn cael 3 awr i baratoi a choginio 2 ddogn o’r tair saig ganlynol:
- Cwrs cyntaf Lleden lefn
- Prif gwrs Ffesant
- Pwdin siocled
Mae’n rhaid i bob saig gynnwys y cynhwysion a nodir uchod, fodd bynnag gall cystadleuwyr gyflwyno seigiau o’u dyluniad eu hunain ar eu llestri eu hunain.
Rownd derfynol – Amlinelliad o’r Gystadleuaeth
Yn gyntaf, bydd cystadleuwyr yn cael 3 awr i baratoi a choginio 2 ddogn o’r tri saig canlynol:
- Cwrs cyntaf Macrell
- Prif gwrs Deuawd o Borc
- Triawd o Bwdinau (elfennau poeth ac oer)
Hefyd, bydd cystadleuwyr yn cael “Blwch Dirgel” â rysáit fanwl i’w dilyn. Caniateir amser darllen ac ymgyfarwyddo.
Cofrestru
Yn agor ar 1af Medi ac yn dod i ben ar 20fed Hydref!
Gallwch gofrestru ar-lein trwy: https://www.skillscompetitionwales.ac.uk/