Canolbwyntia’r gystadleuaeth hon ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen am yrfa lwyddiannus fel Cigydd amryddawn/disgybledig yn y Diwydiant Cynhyrchu Bwyd.
Bydd y gystadleuaeth hon yn profi’ch sgiliau cyffredinol, arloesedd, creadigedd, cyflwyniad, moeseg gwaith, dull a ffordd o droi at dasgau, defnydd o’r carcas a’r prif doriadau, gwastraff ac arferion gweithio diogel a hylan.
Bydd y gystadleuaeth derfynol yn cynnwys pum tasg a fydd yn cael eu cyflawni a’u beirniadu dros ddeuddydd o flaen cynulleidfa fyw.
Trefnir y gystadleuaeth gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian ac fe’u cefnogir gan Gr?p Llywio’r Diwydiant a phartner cyfryngau unigryw sef y Meat Trades Journal.
Mae’r partneriaid sy’n noddi’n cynnwys Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd, y Sefydliad Cig, The Food & Drink Training and Education Council Ltd (ftc) ac ymgynghorydd y diwydiant, Viv Harvey.
Pa safon a ddisgwylir?
Darganfyddwch fwy am lefel y sgiliau angenrheidiol o’r albymau Flickr hyn:
Gog.Iwerddon >>
Lawrlwythwch gyfarwyddyd y gystadleuaeth
Pwy all roi cynnig?
Nid oes rhaid i ymgeiswyr feddu ar unrhyw gymwysterau i roi cynnig, ond ni ddylech fod wedi cwblhau lefel uwch na 4 mewn cymhwyster Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd neu’r hyn sy’n gyfatebol i roi cynnig.
Rhaid i’r ymgeiswyr allu cyflawni’r tasgau a’r sgiliau canlynol i lefel foddhaol fel isafswm:
- Sgiliau cyllell da gydag o leiaf 6 mis o brofiad ymarferol.
- Cigyddiaeth Sylfaenol ac Eilaidd sy’n cynnwys cigyddiaeth Ar Hyd yr Uniad gydag o leiaf 6 mis o brofiad ymarferol.
- Sgiliau clymu gyda chortyn da
- Rhaid gallu cymysgu, gwneud, llenwi a chysylltu selsig gan ddefnyddio crwyn naturiol yn gyson
- Rhaid gallu defnyddio peiriant llenwi selsig a briwio cig trydanol yn ddiogel
- Rhaid gallu cyflenwi eich cyllyll, offer torri bach eich hunain
- Rhaid gallu cyflenwi hambyrddau arddangos, labeli cynnyrch, ryseitiau a chyfarwyddiadau coginio lle bo angen
- Y gallu i baratoi cynhyrchion parod i’w bwyta er enghraifft: peis, pasteiod, terinau, rholiau selsig (sylwch mai dim ond enghreifftiau yw’r rhain ac nad ydynt yn gyfyngedig – gweler y cyfarwyddyd am ragor o fanylion)
- Rhaid gallu cynhyrchu cynhyrchion arloesol
- Y gallu i baratoi cynhyrchion o’r un fath
Sawl cystadleuydd o bob sefydliad all roi cynnig?
Nid oes gennym derfyn ar nifer y cystadleuwyr a all roi cynnig o bob sefydliad ond os bydd nifer fawr yn rhoi cynnig o un sefydliad, efallai y bydd rhaid adolygu hyn.
Cofrestru
Cam goddefol yw cam cyntaf y Cymhwyswr Cenedlaethol hwn, lle mae’n rhaid i chi gwblhau gwaith yn eich amser eich hun a’i gyflwyno i dîm y gystadleuaeth i’w feirniadu. Lawrlwythwch y ddogfen Gwybodaeth am y Dasg – Goddefol. Bydd y cystadleuwyr â’r sgôr uchaf ar draws y cam goddefol yn cael eu gwahodd i gystadlu mewn rownd fyw.
Sylwch: mae’n hanfodol i bob cystadleuydd gofrestru ar-lein gan ddefnyddio’n system gofrestru ar-lein; ni fydd unrhyw gyflwyniad a gafwyd heb gofrestriad dilys yn gymwys i’w feirniadu.
_________________________________________________________________________
Downloads:
Briff o WorldSkills UK Butchery 2017 >>
_________________________________________________________________________
Noddwyr Arian:
Noddwyr: