Sesiynau ymarferol ac atyniadol yn cael eu cyflwyno gan diwtor hynod brofiadol gyda chymorth cyntaf a gwybodaeth a phrofiad meddygol helaeth.
Mae gennym ni 3 Chwrs Cymorth Cyntaf y gallwn eu cyflwyno:
1 diwrnod Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith (EFAW)
Cymhwyster 2 ddiwrnod Cymorth Cyntaf yn y Gwaith (FAWR)
3 diwrnod Cymorth Cyntaf yn y Gwaith (FAW)
Mae hyfforddiant EFAW yn galluogi swyddog cymorth cyntaf i roi cymorth cyntaf brys i rywun sydd wedi’i anafu neu’n mynd yn sâl tra yn y gwaith.
Mae hyfforddiant FAW yn cynnwys EFAW a hefyd yn galluogi’r swyddog cymorth cyntaf i gymhwyso cymorth cyntaf i ystod o anafiadau a salwch penodol.
Mae cyrsiau hyfforddi FAW yn cynnwys o leiaf 18 awr o hyfforddiaant ac yn cael eu cynnal dros o leiaf dri diwrnod. Mae cyrsiau hyfforddi EFAW yn cynnwys o leiaf chwe awr o hyfforddiant ac yn cael eu cynnal dros o leiaf un diwrnod.
Cynnwys a ddarperir yn unol â chanllawiau cyfredol a gyhoeddwyd gan y Cyngor Dadebru (DU).
Yn ogystal, gallwn gynnig Gloywi Cymorth Cyntaf:
Mae’r HSE yn argymell yn gryf bod swyddogion cymorth cyntaf yn ymgymryd â hyfforddiant gloywi blynyddol, dros hanner diwrnod, yn ystod unrhyw gyfnod ardystio tair blynedd. Er nad yw’n orfodol, bydd hyn yn helpu swyddogion cymorth cyntaf cymwys i gynnal eu sgiliau sylfaenol a chael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau i weithdrefnau cymorth cyntaf.
Gellir cyflwyno unrhyw un o’r cyrsiau hyn i grwpiau yn amrywio o 3 -12 o bobl a gellir eu trefnu yn eich gweithle eich hun neu yn ein lleoliad yn y Trallwng.