Mae Rho Gynnig Arni yn fenter sy’n defnyddio profiadau hwyliog a rhyngweithiol i annog plant ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â myfyrwyr coleg i ddysgu mwy am yrfaoedd galwedigaethol a phrentisiaethau.

Mae pecynnau Rho Gynnig Arni yn rhoi popeth sydd angen arnoch er mwyn cynnig cipolwg gwirioneddol a deniadol i ddysgwyr ar rai o’r opsiynau gyrfa fwyaf poblogaidd a chyffrous. Mae profiadau ar gael ar draws pum sector diwydiant, yn amrywio o’r cyfryngau i beirianneg.

I weld yr holl adnoddau ac offer sydd ar gael ewch i: https://inspiringskills.gov.wales/have-a-go?lang=cy