Cyflogwyr a Thwf Swyddi Cymru
Rydym yn helpu busnesau Cymru i greu swyddi unigryw, cyffrous a chynaliadwy ar gyfer di-waith 16-24 oed.
Holi
Dyluniwyd y rhaglen er mwyn galluogi busnesau sy’n tyfu ledled Cymru i greu cyfleoedd gwaith unigryw, cyffrous a chynaliadwy i bobl ifanc, 16 i 24 mlwydd oed, ddi-waith a pharod am swyddi. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu talu wrth yr isafswm cyflog cenedlaethol neu’n uwch am o leiaf 25 awr yr wythnos.
Allwch chi greu cyfle am swydd i rywun ifanc yn eich busnes?
Os gallwch chi greu cyfle am swydd gynaliadwy ychwanegol yn eich busnes i rywun ifanc heddiw, gallwn ni helpu cefnogi’ch busnes trwy ad-dalu 50% o gost eu cyflog am y chwe mis cyntaf yn ôl yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eu hoedran.
Os ydych chi’n bwriadu tyfu’ch busnes, yna gallai Twf Swyddi Cymru eich helpu i gyflawni’ch nodau.
Y manteision busnes
Pa gefnogaeth fyddwch chi’n ei chael?
Rhaid i’r swydd fod yn un go iawn ac nid lleoliad gwaith am 6 mis. Cydnabyddwn fod recriwtio staff newydd yn mynnu amser ac ymrwymiad. Byddwch chi’n cael eich cefnogi gennym fel eich asiant rheoli, gan roi amser i chi ganolbwyntio ar gael y gorau allan o’ch gweithiwr newydd o’r diwrnod cyntaf un.
Er mwyn gwneud y broses recriwtio hyd yn oed yn haws, byddwn yn rhestru’r holl swyddi gwag ar adran Twf Swyddi Cymru ar wefan Gyrfa Cymru. Yna bydd pobl ifanc barod am waith yn gallu gwneud cais ar-lein.
Eich ymrwymiad
Yn gyfnewid am ad-daliad o 50% am gyflog eich gweithiwr newydd, ac am helpu dod o hyd i’r ymgeiswyr mwyaf addas, gofynnwn am ambell i sicrwydd gennych chi.
“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae ein busnes wedi newid yn ddramatig, o agor ein becws ein hunain a thyfu ein tîm yn gyflym, i frwydro trwy’r pandemig a gorfod addasu ein busnes i oroesi dros yr ychydig fisoedd anodd diwethaf. Diolch byth, rydyn ni dros y gwaethaf ac yn gyffrous iawn i dyfu ein tîm unwaith eto. Rydym wedi bod yn ddigon ffodus, y ddau dro, i weithio gyda Chwmni Cambrian i ddefnyddio’r cynllun Twf Swyddi Cymru (JGW) sydd ar gael.
Nid yn unig y mae hyn yn rhoi cyfle inni helpu person ifanc di-waith i ddechrau gyrfa mewn cynhyrchu bwyd, ond fel busnes sydd angen tyfu, wrth gadw llygad caeth ar gyllid ar yr un pryd, mae budd ariannol cynllun JGW yn amhrisiadwy. Mae gweithio gyda Chwmni Cambrian wedi gwneud y broses yn hynod o hawdd, o’r recriwtio i gyflogi’r gweithwyr ac ôl-ofal. “
Alana Spencer, Ridiculously Rich gan Alana
Ydy’ch busnes yn gymwys?
Bydd meini prawf cymhwyster yn berthnasol, ond rhaid eich bod chi wedi bod yn masnachu am dros 6 mis yn y sector preifat neu drydydd sector a bod yng Nghymru. Cefnogir rhaglen Twf Swyddi Cymru, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Os oes gennych ddiddordeb mewn creu cyfle am swydd i rywun ifanc yn eich busnes yn y siroedd canlynol ledled Cymru a hoffech fynegi diddordeb mewn unrhyw feysydd a reolwn sydd wedi’u rhestru isod, llenwch y ffurflen Mynegi Diddordeb a gyflwynir i Lywodraeth Cymru i’w phrosesu;
Mynegiant o Ddiddordeb Cliciwch Yma >> gan sicrhau eich bod chi’n dewis Cwmni Hyfforddiant Cambrian fel eich asiant rheoli.
Ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi’n fuan. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau mewn perthynas â’r rhaglen, cysylltwch â trwy e-bost: info@cambriantraining.com i gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth neu dros y ffôn; 01938 555893.