Rhaglenni a Ariennir

Cyllid sydd Ar Gael

Mae nifer o raglenni wedi’u hariannu ar gael i gyflogwyr yng Nghymru i helpu cefnogi a thyfu’ch busnes ar y cyd â hyfforddi’ch gweithlu. Darganfyddwch beth sydd ar gael i chi isod;

Twf Swyddi Cymru
A allwch greu swydd newydd i berson ifanc di-waith (16 – 24 oed)? Os gallwch chi, yna mae cymhorthdal ariannol ar gael i chi fel cyflogwr, a fydd yn eich galluogi i hawlio rhan o’u cyflog yn ôl. Mae’r cymhorthdal y gallwch ei hawlio’n unol â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer oedran y person ifanc hwnnw. Fodd bynnag, fel cyflogwr, nid oes rhaid i chi dalu ond yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol i’r person ifanc. I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon, ewch in rhan ar Dwf Swyddi Cymru >>

Cymhelliad Cyflogaeth Prentisiaeth

Bydd y cynllun hwn yn darparu cefnogaeth i BbaCh (Busnesau Bach a Chanolig eu Maint) recriwtio prentisiaid 16-19 oed, yn helpu darparu’r sgiliau y mae ar unigolion a chyflogwyr eu hangen dros y tymor hir, ac yn atal prinder sgiliau. Mae’r meini prawf fel a ganlyn:

  • Mae ond ar gael i BBaCh sy’n newydd i brentisiaethau neu sydd heb recriwtio prentis yn ystod y 30 mis diwethaf
  • Bydd cefnogaeth yn cael ei chynnig i uchafswm o dri phrentis fesul cyflogwr
  • Bydd cefnogaeth ar gael ni waeth beth yw lefel y brentisiaeth
  • Cynigir taliad o £3,500 (fesul dysgwr) i brentisiaid sy’n cael eu recriwtio yn ystod y cyfnodau Gorffennaf – Medi ac Ionawr – Mawrth a thaliad o £2,500 (fesul dysgwr) i brentisiaid sy’n cael eu recriwtio ar bob adeg arall o’r flwyddyn.
  • Bydd y taliad llawn yn cael ei wneud ar ôl i’r prentis gael ei gyflogi am 8 mis

Er mwyn cofrestru’ch diddordeb, cysylltwch â Katie George; katieg@cambriantraining.com

Cysylltwch â Ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw ran o’r cyllid sydd ar gael i chi, cysylltwch â’n tîm yn y Pencadlys; info@cambriantraining.com

Cefnogir y Brentisiaeth, yr Hyfforddeiaeth a Rhaglenni Twf Swyddi Cymru, sydd dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.